Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Y Trafodion

cartref > Transactions > Volume 32 - 2026 > GOLWG AR SENEDDAU OWAIN GLYNDŴR

GOLWG AR SENEDDAU OWAIN GLYNDŴR

Trafodir yma yn fanylach nag a wnaed o’r blaen y dystiolaeth brin a gadwyd ynghylch y seneddau a gynhaliodd Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel. Dechreuir drwy drafod yr enw a roddwyd arnynt yn eu dydd a’u cyfnod. Trafodir lleoliad posib Senedd Machynlleth (1404), gan gloriannu’r dybiaeth iddi gael ei chynnal yn yr adeilad a adwaenir fel ‘Senedd-dy Owain Glyndŵr’, a dilysrwydd y traddodiad i Ddafydd Gam geisio dal neu lofruddio Glyndŵr yno. Nodir sylwadau diraddiol Adda o Frynbuga am y senedd honno yn ei gronicl, sylwadau a adleisiwyd gan Chris Bryant, A.S. yn ei gyfrol Parliament: The Biography, I (2014). Gwrthodir y sylwadau hyn, gan dynnu ar berthnasedd tystiolaeth Syr John Stanley ynghylch Senedd Harlech (1405) a ddisgrifiwyd ganddo’n ddiamwys fel parlement. Dyfynnir tystiolaeth ynghylch seneddau canoloesol o’r tu allan i Gymru lle bo hynny’n berthnasol. Awgrymir i seneddau Glyndŵr ysgogi delfryd a ddaeth yn y man yn un o’r ffactorau a arweiniodd at sefydlu trefn seneddol Gymreig yn y cyfnod diweddar.

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login

Filter by Subject