Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Rhys David

Ganed Rhys David yng Nghaerdydd ac mae ganddo radd MA mewn astudiaethau dyneiddiol o Brifysgol Rhydychen. Dechreuodd ei yrfa mewn newyddiaduriaeth yn y Western Mail, Caerdydd ble roedd yn Brif Ysgrifennwr Golygyddol, Golygydd Diwydiant a Golygydd Materion Cymreig yn olynol. Yna treuliodd ddeng mlynedd ar hugain yn y Financial Times, mewn swyddi golygyddol ac fel ysgrifennwr uwch yn delio â sectorau busnes y DU ac yn rhyngwladol. Yn ystod ei yrfa yn y FT treuliodd hefyd dair blynedd fel rheolwr gyfarwyddwr a chyhoeddwr y Business Magazine, cyd-is-gwmni y FT a Conde Nast, ac roedd yn gymrawd gwasg BP yng ngholeg Wolfson, Caergrawnt ym 1986. Ar ôl gadel y FT gweithiodd am chwe mlynedd fel cyfarwyddwr cynorthwyol Sefydliad Materion Cymreig yng Nghaerdydd ble mae’n Gymrawd Anrhydeddus. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar faterion economaidd rhanbarthol ac yn enwedig ar Gymru ac mae’n awdur Tell Mum not to Worry, cofnod o ymgyrchoedd Adran 53 (Cymru) yn y Dwyrain Agos yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae wedi bod yn gymrawd o’r RSA ers 1986. Roedd yn aelod o Gomisiwn Annibynniaeth Cymru a gyflwynodd ei adroddiad ym Medi 2020