The Honourable Society of Cymmrodorion

Recognising the contribution of Wales in contemporary society

Ein Hanes

cartref > Y Gymdeithas > Ein Hanes

Hanes Byr y Cymmrodorion Gan y Llywydd, Athro Emeritws Prys Morgan

Dathlodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei chwarter-mileniwm yn 2001, am ei bod wedi ei sefydlu yn swyddogol yn Llundain yn 1751. Ond mae’n bwysig cofio ei bod wedi tyfu o gymdeithas gynharach, Anrhydeddus a Theyrngar Gymdeithas yr Hen Frytaniaid a sefydlwyd yn 1715. Cymdeithas oedd hon o Gymry Llundain a oedd yn trefnu’r cinio blynyddol ar Wyl Ddewi yn Llundain, er mwyn helpu teuluoedd Cymry yn Llundain oedd mewn tlodi, yn arbennig trwy gynnal ysgol elusennol i’w plant, gyntaf yn Clerkenwell, wedyn yn Gray’s Inn Lane. Symudodd yr ysgol ( a droes yn y pen-draw yn ysgol i ferched) i Ashford, swydd Middlesex yn 1857, gan gau ei drysau am y tro olaf yn 2009. Ystyr ‘ teyrngar’ yn y teitl oedd pwysleisio i’r nrenin Hanoferaidd newydd nad oedd y Cymry mor annheyrngar a’r Albanwyr a wrthryfelodd yn 1715, ac ystyr yr ‘Hen Frytaniaid’ oedd bod Prydeinig wedi arfer golygu ‘ Cymreig’ hyd at 1707 ond ei fod fwyfwy yn cael ei ddefnyddio nawr i son am y Deyrnas Gyfunol.

Roedd y Cymry’n parhau i ddylifo mewn i Lundain trwy’r ddeunawfed ganrif, a Chymru’n wlad heb brifddinas, yn wir, heb fawr o drefi o bwys, ac erbyn 1750 teimlai llawer bod angen canolbwynt i gyfarfodydd yn amlach na chinio Gwyl Ddewi, ac angen am le i drafod hanes a diwylliant Cymru. Y farn gyffredin yw mai creadigaeth Morysiaid Mon yw Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751, y tri brawd athrylithgar, William a ofalai am dolldy Caergybi, Richard a oedd yn Glerc Swyddfa’r Morlys yn Whitehall, a fu byw ei oes gyfan yn Llundain gan farw yma yn 1779, a Lewis, a dreuliodd lawer o’i fywyd yn Sir Aberteifi yn gofalu am fwyngloddiau’r Goron yno, llenor ac arweinydd y dadeni diwylliannol yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Pennwyd rheolau’r gymdeithas yn 1753, a’u cyhoeddi yn 1755, a’r cyfieithiad Cymraeg o waith y bardd enwog Goronwy Owen.

Roedd gan y Gymdeithas o leiaf dri bwriad, sef cynnal ciniawau lle y gellid casglu arian i helpu’r ysgol rad neu unrhyw Gymry Llundeinig mewn adfyd, yn ail, astudio llen a hanes Cymru, a chynnal trafodaethau ar y pynciau hyn a chyhoeddi llyfrau ar Gymru, ac yn drydydd, rhoi arweiniad i’r Cymry gartref, cenedl heb unrhyw sefydliadau. Lewis Morris a ddyfeisiodd enw’r Gymdeithas, a daw Cymmrodorion o ‘ cyn- frodorion’ sef trigolion cyntaf ynysoedd Prydain, i nodi pwysigrwydd y Cymry fel y genedl a oedd yn cysylltu Prydain Fawr fodern a’r Brythoniaid a oedd wedi byw yma am filoedd y flynyddoedd cyn dyfodiad y Sacsoniaid, gan awgrymu y dylid rhoi parch i’r Cymry , fel yr unig ddolen gyswllt a hen hen hanes Prydain.

Richard Morris oedd llywydd y Gymdeithas hyd ei farw yn 1779, a’i olynu gan Syr Watkin Lewes, AS gweithgar a ddaeth yn Arglwydd Faer Llundain. Ond roedd Pen-llwydd yn ogystal, sef William Vaughan o Gorsygedol, AS Meirionnydd a olynwyd yn 1775 gan Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay. Aeth y Gymdeithas ymlaen a’i chyfarfodydd mynych gan ddenu llawer o aelodau o fri, ond unwaith y bu farw’r gen hedlaeth gyntaf o aelodau, diffoddwyd y fflam, a daeth y gymdeithas i ben yn 1787.

Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyneddigion gan aelodau o’r Cymmrodorion yn 1770, a oedd yn teimlo bod yr aelodau’n rhy bendefigaidd, bod y cyfarfodydd heb ddigon o hwyl a Chymreigrwydd, ac yn bendant heb ddigon o ganu penillion a’r delyn. Calon y gymdeithas oedd Owen Jones ‘ Owain Myfyr’ masnachwr crwyn hynod lwyddiannus. Erbyn y 1780 daeth y Gwyneddigion yn fforwm trafodaethau gwleidyddol, ond bu cryn lwyddiant hefyd ar raglen o gyhoeddi clasuron Cymraeg megis gwaith Dafydd ap Gwilym yn 1789 a thair cyfrol o drysorau hen lenyddiaeth Gymnraeg y Myvyrian Archaiology o 1801 i 1807, a llwyddiant i’w rhaglen o noddi eisteddfodau yng Nghymru yn 1789. Rhwng 1805 a 1807 cyhoeddwyd cylchgrawn Y Greal ganddynt.

Tyfodd amryw o gymdeithasau o gyff y Gwyneddigion, y Caradogion rhwng 1790 a 1798, lle y rhoddwyd sylw i’r Saesneg ac i drafodaethau gwleidyddol, o 1794 y Cymreigyddion, a sefydlwyd gan radicaliaid megis Jac Glan y Gors, a apeliai yn fawr at y werin yn Llundain, a’r holl dadleuon yn y Gymreaeg. Roeddd yn anodd cynnal cyfarfodydd o unrhyw fath yn ystod y rhyfeloedd hir a blin, ond wedi i heddwch ddyfod yn 1815 daeth nifer o gymdeithasau i fod megis yr Ofyddion, y Canorion, y Gomeriaid, Cymdeithas Dewi Sant, ac yn olaf, yr Ymofynwyr Cymreigyddawl – yr olaf yn adwaith yn erbyn clybiau ysgafnfryd y ddeunawfed ganrif, ac yn torri allan unrhyw aelodau annuwiol, ac yn ymgadw rhag mynychu tafarnau. Yn fwy pwysig roedd y ffaith fod y Cymry gartref yn dechrfau sefydlu eu cymdeithasau eu hunain gan ddynwared y Cymmrodorion ac yn gofyn i Gymry Llundain feddwl am ailsefydlu’r hen Gymdeithas.

Un o blant y Gwyneddigion yn y 1790au oedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a ddyfeisiwyd gan Edward Williams ‘ Iolo Morganwg’ tua 1790 ac a gynhaliodd eu cyfarfod cyntaf yn 1792 ar ben Primrose Hill. Wedi dychwelyd i Gymru cynhaliodd Iolo ragor o Orseddau ar hyd a lled Cymru, ac yna, wedi bwlch yn ystod y rhyfel, daeth Gorseddau eto. Bu bwlch hefyd yn y broses o gynnal eistreddfodau, ond daeth llenorion a gwlatgarwyr at ei gilydd yn ystod 1818-9 i sefydlu ‘ Cymdeithasau Cymreigyddawl’. Yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819 cysylltwyd Gorsedd Iolo am y tro cyntaf gyda’r Eisteddfod. Ym mis Mehefin 1819 yn nhy Arglwydd Dinefwr yn Llundain cynhaliwyd cyfarfod i ailsefydlu’r Cymmrodorion. Yn 1820 daeth W.J. Rees, Ficer Casgob, i Lundain am chwe wythnos i weithio ar gylchoedd Cymry Lllundain a’u tynnu at ei gilydd a’u cael i ailsefydlu’r Cymmrodorion. Parhaodd yr Ail Gymmrodorion o 1820 hyd 1843, gan ddenu nifer o aelodau diddorol megis Walter Scott, Southey a Thomas Love Peacock yn aelodau, a chan gyhoeddi o 1822 ymlaen y Trafodion, a chan ddechraiu’r ddefod o roi medalau – cynlluniwyd y gwreiddiol gan neb llai na Flaxman – a hwy a ddechreuodd ddefnyddio’r arwyddair sydd gennym hyd yn oed heddiw sef ‘Cared Doeth yr Encilion’, – hynny yw, ‘ Cared y doeth hen weddilllion hanes’, a oedd wedi ymddangos ar ddalen deitl y Myvyrian Archaiology. Cynigiwyd help i’r eisteddfodau, ond heb roi gwir arweiniad ac undod i’r mudiad. Un o fwriadau’r Cymmrodorion yn y ddeunawfed ganrif oedd agor eglwys Gymraeg yn Llundain, a llwyddodd yr Ail Gymmrodorion i wneud hyn gan brynu eglwys St Etheldreda, Ely Place, yn 1843 – dyma ragflaenydd St Benet’s.

Erbyn y 1840au roedd bywyd Cymraeg Llundain wedi newid yn gyfangwbl: hyd yn oed cyn i’r Cymmrodorion brynu eglwys Gymraeg roedd capeli Cymraeg wdi codi , ac roedd yr hen gyfarfodydd hwyliog mewn tafarnau wedi mynd allan o ffasiwn. Daeth amser caled ar y Gwyneddigion yn y 1830au, daeth yr Ail Gymmrodorion i ben yn 1843, ac aeth y Cymreigyddion i lawr erbyn y 1850au. Dechreuwyd y Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig yn 1846 – a hynny ar dir Cymru –mewn adwaith i golli’r Cymmrodorion. Yn un o gyfarfodydd y Cymreigyddion arweiniodd Syr Hugh Owen y camau cyntaf i sefydlu cymdeithas er taenu gwybodaeth ddefnyddiol trwy Gymru- symudiad nodweddiadol o oes pan oedd y Cymry wrthi’n codi capeli ac ysgolion, a datblygu busnes a diwydiant. Roedd canol y 19fed ganrif yn gyfnod o ladd ar y Cymry am roi gormod o sylw i’w gorffennol pell, eu hiaith a’u traddodiadau hynafol, yn sgil beirniadaeth lem comisiynwyr y Llywodraeth yn y Llyfrau Gleision ar addysg Cymru yn 1847 – ‘ Brad y Llyfrau Gleision’. Gwir fod gan Gymru gyfres o eisteddfodau cenedlaethol rhwng 1858 a 1868, ond dyma Hugh Owen eto yn sefydlu adran ‘ Social Science’ynddynt er mwyn trafod pynciau llosg y dydd yng Nghymru.

Cafwyd bwlch o ugain mlynedd rhwng colli’r Ail Gymmrodorion a sefydlu’r drydedd yn 1873. Ceisiodd John Williams ‘ Ab Ithel’ lenwi’r bwlch trwy sefydlu’r Cambrian Institution yn Llundain yn 1855. Ond erbyn 1870 bu teimlad go gyffredinol trwy Gymru bod angen cymdeithas yn Llundain i roi arweiniad i’r hen wlad. Ar ol etholiad enwog 1868 roedd yr aelodau seneddol yn griw llawer mwy Cymreigaidd na chynt, a dyma Hugh Owen a’i gydweithwyr yn llwyddo i agor Coleg Prifysgol i Gymru yn Aberystwyth yn 1872. Yn eisteddfod Porthmadog 1872 bu nifer yn gofyn am ailsefydlu cymdeithas debyg i’r Cymmrodorion, a’r un math o gais yn Eisteddfod yr Wyddgrug yn 1873, a’r son oedd y gallai’r fath gymdeithas ailgyfundrefnu’r Brifwyl. Trwy lwc roedd pwyllgor wedi ei sefydlu yn Llundain i godi arian i noddi Undeb Corawl y De ( Cor Caradog) i gystadlu yng ngwyl y Palas Grisial, a wedi’r fuddugoliaeth roedd gan y pwyllgor gryn arian heb ei wario. Darbwyllodd Hugh Owen a’i gyfaill John Grifffith ‘ Y Gohebydd’ y pwyllgor i gynnig yr arian sbar i godi Cymmrodorion newydd, a dyma’r syniad a gyflwynodd Y Gohebydd i’r Cymry yn yr Wyddgrug yn 1873. Cafodd y syniad groeso brwd ac felly erbyn mis Tachwedd 1873 ailsefydlwyd y Cymmrodorion yn Llundain a dyma’r gymdeithas sydd yn bodoli heddiw.

Syr Hugh Owen a etholwyd yn gadeirydd y cyngor, a Syr Watkin Williams-Wynn yn llywydd, a’r trysorydd oedd J.H. Puleston, aelod seneddol a oedd yn gyfrifol wedyn am sefydlu’r gwasanaeth Gwyl Ddewi yn eglwys Sant Paul. I bob pwrpas dyma gyfnod o osod y patrwm presennol sydd i’r Gymdeithas, sef nifer o gyfarfodydd yn Llundain a chyfarfodydd yr Adran Gymmrodorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cysylltodd y Gymdeithas ei hun a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fel arfer byddai’r cyfarfodydd ar faes yr Eisteddfod yn ymwneud a phroblemau cyfoes Cymru.. Yn aml bu’r math yma o gyfarfodydd yn hwb i hyrwyddo sefydliadau’r genedl, y Llyfrgell a’r Amgueddfa Genedlaethol a sefydlwyd yn 1907, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906, Cymdeithas Lyfryddol Cymru yn 1907, a Chyngor Diogelu Cymru Wledig a gynigiwyd gyntaf yn 1923 ond a sefydlwyd yn 1927.

Dyma gyfnod sefydlu patrwm o gyhoeddi llyfrau yn ogystal: cyhoeddwyd cyfres Y Cymmrodor o 1875 ymlaen, ac erbyn 1893 daeth y Trafodion i fod, sef fersiwn brintiedig o anerchiadau a roddasid i’r Gymdeithas , prif fforwm trafod hanes Cymru hyd at sefydlu’r Cylchgrawn Hanes Cymru yn 1960. Yn yr 1890au hefyd dechreuodd y Cymmrodorion Record Series gyhoedddi nifer o ffynonellau hanesyddol gwerthfawr Cymru. O 1887 hyd ei farw yn 1934 ysgrifennydd y Gymdeithas oedd Syr Vincent Evans, ac y mae’n dyst i’w nerthoedd cawraidd ei fod nid yn unig yn trefnu Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ond holl gyhoeddiadau’r Gymdeithas yr un pryd, a hynny am hanner canrif.

Un o aelodau’r Cyngor ar y dechrau oedd y cerflunydd Josxeph Edwards, ac ef a gynlluniodd fedal y Cymmrodorion. Rhoddwyd y cyntaf o’r medalau hyn yn 1883 i William Rees ‘ Gwilym Hiraethog’. Yr oedd Hiraethog mewn gwirionedd wedi ennill medal yr hen Gymmrodorion yn 1828 am draethawd ar Gantre’r Gwaelod. Ond y drefn yn awr oedd rhoi medal am wasanaeth oes i Gymru a dyma’r patrwm sydd wedi ei ddilyn hyd heddiw. Yn 1951 ar ddaucanmlwyddiant y Gymdeithas rhoddwyd medal i’r Dywysoges Elisabeth , ac mewn seremoni arall fedal i Saunders Lewis. Dim ond bob hyn a hyn y dyfernir y medalau: mewn seremoni ym Mhalas Lambeth rhoddwyd medal yn 2008 i’r Archesgob Rowan Williams, ac yn 2009 mewn seremoni yn Nhy’r Arglwyddi rhoddwyd medal i’r hanesydd Arglwydd Morgan o Aberdyfi.

Wedi marw Syr Vincent Evans yn 1934 llywiwyd y Gymdeithas am ugain mlynedd gan yr ysgrifennydd Syr John Cecil-Williams, a ymdaflodd i’r gorchwyl o godi’r aelodaeth, a oedd yn sefyll tua 300 yn unig yn y 1930au, i dros 2200 erbyn 1951, gan ddarbwyllo pawb o bwys yn Llundain a Chymru ac yn wir dros y mor yn ogystal i ddod yn aelodau. Cafwyd nifer o gyfarfodydd yng Nghymru yn 1951, ac un cyfarfod neilltuol i osod coflech i Ddafydd ap Gwilym ar furiau Abaty Ystrad Fflur., y cyfan yn codi amlygrwydd y Gymdeithas yng Nghymru.

Dilynwyd traddodiad y Gymdeithas o amser Hugh Owen ymlaen o fod yn grwp gwasgu dros Gymru, ambell waith yn gweithio yn anffurfiol, dro arall yn anfon dirprwyaeth neu femorandum at y llywodraeth . Dyna ddigwyddodd er enghraifft yn 1952 wrth fynd ar ofyn y llywodraeth am well sylw i Gymru ar stampiau post, arian ac yn wir i gael baner swyddogol i Gymru. Anfonodd y Gymdeithas femoranda at bwyllgorau megis Pwyllgor Pilkington ar ddyfodol darlledu ym Mhrydain, ac at Bwyllgor Hughes-Parry ar statws y Gymraeg, ac yn wir penodwyd Ben Jones ( ysgrifennydd y Gymdeithas) yn gadeirydd Cyngor yr Iaith Gymraeg gan y llywodraeth. Yn 1984 daeth llwyddiant i ymdrech y Gymdeithas i wasgu ar y llywodraeth i beidio symud y Fridfa Blanhigion o blas Gogerddan i rywle yn nyffryn Tafwys, ac yn 2000 anfonodd y Gymdeithas femorandwm pwysig at Bwyllgor Materion Cymreig Ty’r Cyffredin ar wella ‘r broses o gyflwyno buddiannau Cymru a’r Gymraeg dramor.

Mae’r Gymdeithas yn parhau i gyhoeddi’r Trafodion bob blwyddyn,gan gynnig llwyfan unigryw i erthyglau yn y ddwy iaith ar hanes a llen C ymru a phob math o bynciau llosg. Bu’r Dr Peter Roberts o Brifysgol Caint yn olygydd y Gymdeithas am bymtheng mlynedd, ac yn ystod 2008-09 y mae’r Athro Helen Fulton o Brifysgol Abertawe yn dechrau fel Golygydd.

Bu galw am rai blynyddoedd am fynegai i gyhoeddiadau’r Gymdeithas, ac yna yn 1990 cyhoedodd Gareth Haulfryn Williams ( mab J. Haulfryn Willikams a fu’r ysgrifennyddd y Gymdeithas hyd ei farw yn 1980) fynegai i’r Cymmrodor ac i’r Trafodion o 1878 hyd 1982, cyfrol sydd yn drysor i holl ysgolheigion Cymru. Daeth cyfres Y Cymmrodor i ben yn 1951 gyda chyhoeddi ( yn Saesneg) Hanes y Cymmrodorion gan Helen Ramage a’r Athro R.T. Jenkins, cyhoeddiad a oedd yn rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y Gymdeithas. Ond cyn yr Ail Ryfel Byd yr oedd y Gymdeithas wedi dechrau cynllunio cyhoeddiad arall gwerthfawr sef geiriadur bywgraffyddol y Cymry. Cynigiwyd yr enw Bywgraffiadur gan neb llai na Syr Thomas P{arry-Williams, cadeirydd y Gymdeithas rhwng 1960 a 1969, a hynny ychydig cyn cyhoeddi’r gyfrol yn 1953, dan olygyddiaeth R.T. Jenkins. Cafwyd fersiwn Saesneg, y Dictionary of Welsh Biography yn 1959. Aeth y Bywgraffiadur a hanes y Cymry hyd at y flwyddyn 1940, felly bu’n rhaid cael cyfrolau i gynnwys y Cymry a fu farw hyd at 1970 mewn cyfrolau atodiadol a gyhoeddwyd yn 1990 a 1997. Golygyddion y rhain oedd y Llyfrgellyddion Cenedlaethol, E.D. Jones, a Dr B.F. Roberts, ac y mae Dr B.F. Roberts wedi cynnal y gwaith o gasglu ffeiliau bywgraffyddol y Cymry yn Aberystwyth, ond penderfyniad y Gymdeithas erbyn hyn yw mai’r ffordd fwyaf hwylus o gyhoeddi yw trwy roddi’r manylion ar-lein.

Yn 2001 cyrhaeddodd y Gymdeithjas garreg filltir arbennig yn ei hanes hir, sef ei chwarter-mileniwm, ac uchafbwynt y dathlu oedd derbyniad brenhinol ym Mhalas Sain Siams yn Lundain, a oedd yn gyfle i’r aelodau gyfarfod a’u Noddwr Brenhinol newydd ,sef ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru. Roedd hefyd yn achlysur lle y trosglwyddwyd llywyddiaeth y Gymdeithas oddi wrth yr Athro Emrys Jones i’r hanesydd o Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, Syr Rees Davies. Agwedd bwysig o’r dathlu oedd cyhoeddi cyfrol dan olygyddiaeth Emrys Jones The Welsh in London. Bu’r Gymdeithas yn galaru ar ol marw’r Llywydd Syr Rees Davies yn 2005, ac felly penodwyd Prys Morgan o Abertawe ( a fuasai’n Olygydd y Gymdeithas rhwng 1977 a 1987)yn Llywydd, ac ym mis Mai 2006 fe deledwyd ei ddarlith lywyddol fel rhan o gyfres deledu ar y Cymry yn Llundain,( cyfres a luniwyd i raddau gan Emrys Jones). Y Llywydd presennol sydd wedi cael y dasg o lunio pwt o hanes y Gymdeithas i wefan y Gymdeithas – cyfrwng wrth gwrs tu hwnt i ddychymyg ein sefydlwyr megis Lewis Morris, a hyd yn oed i swyddogion diweddar megis Syr Vincent Evans a Syr John Cecil-Williams. Ond pe baent wedi dod ar draws y fath gyfrwng cyhoedddusrwydd, gallwn fod yn sicr y byddent wrth eu boddau gydag ef.

 

Gallwch gael mynediad yma i gopi o “The Honourable Society of Cymmrodorion: a concise history 1751 – 2001” [testun Saesneg yn unig], gan Yr Athro Emrys Jones a’i Anrhydedd Dewi Watkin Powell.