Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Ymaelodi

cartref > Y Gymdeithas > Ymaelodi

Ymaelodi

Mae’r Cymmrodorion yn denu amrywiaeth eang o aelodau unigol a chorfforaethol o bedwar ban byd. Mae ein haelodau presennol yn cynnwys dynion a menywod o bob math o gefndiroedd, sy’n weithgar yn natblygiad gwleidyddol a diwylliannol y genedl ac sy’n hybu Celfyddydau a Gwyddorau Cymru yn angerddol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn ymfalchïo yn ei haelodau corfforaethol lu, gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgelloedd Cenedlaethol Cymru, yr Alban ac Iwerddon. Mae llawer o brifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd yn aelodau o’r gymdeithas; mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a Phrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt a Harvard.

Manteision Ymaelodi

join-circle-talks

Sgyrsiau

Gall aelodau fynychu darlithoedd rheolaidd y Gymdeithas, a gynhelir yn Llundain ac yng Nghymru

join-circle-journal

Cyfnodolyn

Copi am ddim o’r Trafodion, cyfnodolyn y Gymdeithas, bob blwyddyn.

circle-join-website

Gwefan

Lawrlwytho hen gopïau o gyfnodolion y Gymdeithas, erthyglau o ddiddordeb penodol, neu recordiadau MP3.

Mae aelodau’r Gymdeithas hefyd yn derbyn gwybodaeth am newyddion a digwyddiadau, ac maent yn cyfrannu’n sylweddol at y ffordd y caiff y Gymdeithas ei chynnal drwy arfer eu hawl i gyflwyno cynigion a phleidleisio i ethol Aelodau’r Cyngor yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Y tâl aelodaeth am eleni yw £35.00 yn unig. Os hoffech drafod unrhyw fater yn ymwneud ag aelodaeth o’r Gymdeithas, cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth.

Ymuno â’r Gymdeithas

*Os ydych yn byw tu allan i’r DU: ymunwch gyda cherdyn credyd drwy PayPal gan ddewis PayPal pan fyddwch yn cyrraedd y man talu neu cysylltwch â treasurer@cymmrodorion.org er mwyn trefnu taliad drwy drosglwyddiad BACS.