Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Cyhoeddiadau

cartref > Y Gymdeithas > Cyhoeddiadau

Y Bywgraffiadur Cymreig

Yn ei ragair i’r Bywgraffiadur Cymreig, honna Emrys Jones mai creu’r gyfrol yw rhodd fwyaf Cymdeithas y Cymmrodorion i ysgolheictod Cymru. Mae sail gadarn i’w honiad. Dros rhyw 70 mlynedd, mae’r ugeiniau o ysgolheigion a fu’n rhan o brosiect Bywgraffiadur Cenedlaethol Cymru wedi llunio trysorfa wirioneddol o wybodaeth, drwy ymchwil ofalus iawn a gwybodaeth bersonol mewn rhai achosion, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol yn yr iaith Gymraeg a dwy gyfrol yn y Saesneg gan y Cymmrodorion.

Cyhoeddiadau Eraill

Llundain yw cartref y gymuned Gymreig hynaf a mwyaf y tu allan i Gymru. Ers esgyniad Harri Tudur, bu niferoedd y Cymry a drigai yn Llundain yn cynyddu’n raddol. Dyma hanes dynol Cymry Llundain, sy’n canolbwyntio ar fynd a dod dynion a menywod cyffredin yn ogystal â chyfraniad rhai unigolion amlwg.