Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Sara Elin Roberts

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Sara Elin Roberts

Mae Dr Sara Elin Roberts yn ganoloeswr yn arbenigo ar Gymru’r oesoedd canol, yn arbennig hanes Cymru’r oesoedd canol, cyfraith Hywel Dda, testunau a llawysgrifau, a rhyddiaith Gymraeg canol. Mae hi wedi gweithio fel darlithydd mewn sawl prifysgol, gan gynnwys Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Hanes ym Mhrifysgol Bangor, ac Adran Hanes ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Caer. Mae Dr Roberts wedi cyhoeddi yn helaeth ar wahanol agweddau o Gymru’r oesoedd canol, gan gynnwys ei llyfr, a enillodd ddwy wobr, ar gyfraith Hywel, The Legal Triads of Medieval Wales (GPC, 2007). Roedd hi hefyd yn un o’r golygyddion ar gyfer y golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym, a gyhoeddwyd arlein fel www.dafyddapgwilym.net