Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Jenkin Thomas

Ganwyd Jenkin Thomas ym mis Ionawr 1938 yng Nghwmgiedd, Cwm Tawe Uchaf. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Maesydderwen, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Michigan, Ann Arbor. Bu’n aelod o Wasanaeth Tramor a Diplomyddol Ei Mawrhydi rhwng 1960 a 1995, gan wasanaethu yn y Swyddfa Dramor a Swyddfa’r Cabinet a thramor. Bu’n gweithio dramor yn Pretoria/Capetown, Saigon, Washington DC, Tokyo, Athens a Pharis (OECD).