Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

YR ATHRO HELEN FULTON FLSW

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > YR ATHRO HELEN FULTON FLSW

Mae Helen wedi bod yn Olygydd Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ers 2008. Hyfforddodd fel canoloeswr ym mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Rhydychen, gan arbenigo mewn Astudiaethau Celtaidd. Yn dilyn cwblhau ei PhD ar farddoniaeth serch Dafydd ap Gwilym, treuliodd dair blynedd fel cymrawd ôl-ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth. Ar ôl darlithio ym Mhrifysgol Sydney, apwyntiwyd Helen yn Athro ym Mhrifysgol Abertawe, yna i Gadair Llenyddiaeth Ganoloesol ym Mhrifysgol Efrog, cyn derbyn ei swydd bresennol yn 2015 yng Nghadair Llenyddiaeth Ganoloesol ym Mhrifysgol Bryste.

Mae Helen wedi cyhoeddi llawer o erthyglau ac wedi golygu casgliadau ar lenyddiaeth ganoloesol, gyda ffocws arbennig ar lenyddiaeth ganoloesol Gymreig. Hi yw cyd-olygydd The Cambridge History of Welsh Literature, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt yn 2019. Mae Heleln wedi dal swyddi rheoli fel pennaeth adran, pennaeth ysgol a chyfarwyddwr ymchwil. Mae hi’n Gymrawd y Gymdeithas Hynafiaethwyr ac yn bresennol hi yw Is-Lywydd y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.