Mae Thomas Charles-Edwards yn academydd emeritws ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn flaenorol, bu’n Jesus Professor of Celtic ac mae’n Athro Cymrawd yng Ngholeg yr Iesu. Fe’i addysgwyd yng ngholeg Ampleforth cyn darllen Hanes yng ngholeg Corpus Christi, Rhydychen, ble astudiodd am ddoethuriaeth cyn cymryd Diploma mewn Astudiaethau Celtaidd dan Syr Idris Foster. Bu’n Gymrawd Bergin yn Sefydliad Uwchefrydiau Dulyn o 1968 i 1969. Yna bu’n Gymrawd Ymchwil Iau ac yn Gymrawd Hanes yng Ngholeg Corpus Christi cyn cael ei apwyntio i gadair y Geltaidd. Mae ei arbenigedd ym meysydd hanes a iaith Cymru ac Iwerddon, yn ystod yr hyn a elwir yn Oes Dywyll Iwerddon (yn ystod Ymerodraeth Rhufain) a’r “Oesoedd Tywyll” Cyffredinol, a ddilynodd diwedd Ymerodraeth Rhufain yn y gorllewin. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, yn Gymrawd Academi Prydain ac yn Gymrawd Sefydlol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Etholwyd ef yn aelod anrhydeddus o’r Academi Wyddelig Frenhinol yn 2007.