Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Dr. Elizabeth (Liz) Siberry OBE

cartref > Dr. Elizabeth (Liz) Siberry OBE

Magwyd Liz Siberry yn Llandaf; gweithiodd ei thad yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1963 a 1973 ac yna bu’n gadeirydd ar y Gweithgor ynghylch y Bedwaredd Sianel Deledu yng Nghymru; roedd ei mam yn athrawes. Mynychodd Liz Ysgol Hywel Llandaf ac yna aeth i astudio Hanes ym Mhrifysgol Llundain a Choleg Sidney Sussex, Caergrawnt ble cafodd hi PhD yn 1982.

Yn dilyn gyrfa yn gweithio fel gwas sifil yn Llundain ac yn llenwi sawl rôl, yn cynnwys Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol adrannol ac fel Cyfarwyddwr y Centre for the Protection of National Infrastructure, ymddeolodd Liz yn 2011. Dyfarnwyd anrhydedd OBE iddi yn 1997.

Tra’n gweithio bu Liz yn parhau â’i hymchwil ac yn ysgrifennu fel hanesydd y Canol Oesoedd ac wedi ymddeol mae hi wedi cyhoeddi sawl erthygl ar hanes Sir Frycheiniog ac wedi cyd-olygu Henry Vaughan and the Usk Valley (Logaston, 2016). Mae ei diddordebau ymchwil eraill yn cynnwys hanes celf Gymreig, gyda chyfraniadau ar lyfrau ar Artistiaid Dyffryn Llanddewi Nant Hodni (Llanthony Valley) a Visitors to Crickhowell.

Ar hyn o bryd mae Liz ar Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr ar Ymddiriedolaeth Gregynog ac Ymddiriedolaeth Celf Brycheiniog ac yn aelod o Fwrdd golygu y cylchgrawn ‘Brycheiniog’.

Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Llundain a Sir Frycheiniog.