Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Sioned Bowen

Ganed Sioned Bowen yn Wrecsam a chafodd ei haddysg yng Ngharno  a’r Drenewydd, Canolbarth Cymru. Symudodd i Lundain i astudio’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol gyda’r diweddar  Osian  Ellis. Chwaraeodd gyda Grŵp Opera Chelsea a Cherddorfa Salomon ac fe’i sefydlwyd yng Ngorsedd Gymraeg y Beirdd  fel Telynores  Tafwys  ym 1972. Am ugain mlynedd, bu’n dysgu mewn ysgol uwchradd yn Ne Llundain> Symudodd i Ogledd Llundain ac i addysg gynradd fel y gallai ei phlant fynychu Ysgol  Gymraeg  Llundain.

Dychwelodd Sioned i Ganolbarth Cymru fel Pennaeth, yna deng mlynedd fel Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi (Estyn). Roedd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol cyn dod yn Swyddog Gweithredol ar gyfer y Coleg Staff Rhithwir gan weithio’n agos gyda holl Gyfarwyddwyr Addysg Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yn Llywodraethwr Coleg Addysg Bellach, yn aelod o Fwrdd Cwmni Opera a Theatr, ac yn Gadeirydd CaST Cymru (Cymunedau ac Ysgolion Gyda’n Gilydd). Ar hyn o bryd mae’n Aelod o Fwrdd Catch Up (ymyriadau llythrennedd a rhifedd yn y DU).  Ar ôl gwasanaethu fel Deacon yn y Drenewydd, daeth Sioned Bowen ar ôl dychwelyd i Lundain, yn Aelod o Eglwys  Gymraeg  Canol  Llundain. Mae hi’n gyn-Lywydd Cymdeithas Sir Drefaldwyn.