Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Cafodd Catherine Emmerich

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Cafodd Catherine Emmerich

Cafodd Catherine Emmerich (née Evans) ei geni a’i magu ym Machynlleth, Canolbarth Cymru. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda PhD mewn Cemeg. Yn dilyn rhai blynyddoedd yn ymchwilio ac addysgu o fewn sefydliadau megis Prifysgol Illinois UDA, Cyngor Ymchwil Cenedlaethol yr Eidal, a Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street, aeth ymlaen i weithio yn y diwydiant fferyllol, yn bennaf gyda Bristol-Myers Squibb.  Bu’n gweithio mewn rolau amrywiol ar draws nifer o adrannau ee Datblygiad Clinigol, Gwerthu a Hyfforddiant.

Mae hi wedi cyfrannu at amryw o sefydliadau Cymreig Llundain gan gynnwys trefnu ‘Cystadlaethau Blynyddol i Ysgolion ac Addysg Bellach Cymdeithas Maldwyn’ ers 2005. Yn ystod y blynyddoedd bu ei phlant yn mynychu Ysgol Gymraeg Llundain, cadeiriodd Catherine bwyllgor gwaith ‘Cinio Haf’ a fu’n gyfrifol am drefnu cyfres o giniawau ac arwerthiannau llwyddiannus i godi arian i’r ysgol ac ymwybyddiaeth ohoni.