Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Telerau ac Amodau

cartref > Telerau ac Amodau

Croeso i’n gwefan. Os ydych yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau defnyddio canlynol, ac i fod yn rhwym wrthynt, sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn rheoli perthynas Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion gyda chi mewn perthynas â’r wefan hon. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan.

Mae’r term ‘Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan, a dyma gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig: Cymmrodorion, PO Box 55178, London, N12 2AY. Ein rhif elusen gofrestredig yw 313141. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu ddarllenydd y wefan.

Mae defnyddio’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnyddio canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er eich defnydd a’ch gwybodaeth bersonol yn unig. Gall newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni ac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant mewn perthynas â chywirdeb, prydlondeb, perfformiad, cyflawnrwydd nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a ganfyddir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac rydym yn benodol yn eithrio rhag bod yn gyfrifol am unrhyw anghywirdebau neu wallau o’r fath i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
  • Byddwch yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun, ac ni fyddwn yn gyfrifol am hynny. Eich cyfrifoldeb eich hun fydd sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn ateb eich gofynion penodol.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n berchen i ni neu sydd wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys dyluniad, gosodiad, golwg, gwedd a graffeg, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny. Gwaherddir atgynhyrchu oni bai bod hynny’n unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n ffurfio rhan o’r telerau ac amodau hyn.
  • Mae pob nod masnach a atgynhyrchir yn y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i’r gweithredwr neu wedi’u trwyddedu i’r gweithredwr, wedi’u cydnabod ar y wefan.
  • Gallai defnyddio’r wefan hon heb awdurdod arwain at hawlio iawndal a/neu fod yn dramgwydd troseddol.
  • O bryd i’w gilydd, gallai’r wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn at eich cyfleustra chi i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn arwydd ein bod yn ardystio’r wefan(nau). Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys y wefan(nau) y rhoddir dolen iddi/iddynt.
  • Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod a gwyd o ddefnyddio’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Arian Cyfred a Dderbynnir

Gall Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion brosesu trafodion mewn Punnoedd Prydain Fawr (GBP) yn unig.

Amrywiaeth Cynnyrch

Ar y wefan hon, gallwch brynu’r cynnyrch canlynol:
(a) Aelodaeth y Gymdeithas;
(b) Llyfrau, Cyfnodolion, ac erthyglau a gynhyrchir gan y Gymdeithas;
(c) Podlediadau o ddarlithoedd.

Mae’r Gymdeithas yn cadw’r hawl i adolygu ei amrywiaeth cynnyrch ar unrhyw adeg.