Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

THEO DAVIES-LEWIS

cartref > THEO DAVIES-LEWIS

Magwyd Theo Davies-Lewis yn Llanelli ac mae bellach yn byw yng Ngorllewin Llundain, lle mae’n gweithio i’r cwmni cysylltiadau cyhoeddus Finsbury. Mae ei waith yn cynnwys helpu busnesau i adeiladu a gwarchod eu henw da, ynghyd â chefnogi cwmnïau sydd ag argyfwng a chyfathrebu strategol. Theo hefyd yw sylfaenydd Darogan Talent, rhwydwaith swyddi sy’n denu raddedigion i weithio yng Nghymru. Mae’n fwyaf adnabyddus fel awdur a ddarlledwr ar faterion Cymru, lle mae’n cyfrannu at ystod o gyfryngau gan gynnwys BBC Cymru, Nation Cymru, y Western Mail, The Times, The Spectator a Times Radio.

Mae Theo yn siaradwr Cymraeg brodorol ac roedd yn ysgolhaig yng Ngholeg Llanymddyfri ac yna yn Ysgol Sant Mihangel, Llanelli. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn Archaeoleg ac Anthropoleg (BA) o Brifysgol Rhydychen yn 2019.