Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Yr Athro Stuart Cole

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Yr Athro Stuart Cole

Professor-Stuart-ColeMae’r Athro Stuart Cole yn Athro Emeritws Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines ym Mehefin 2012. Mae ganddo bron i 40 mlynedd o brofiad o atebion perthnasol ac ymarferol i bolisi trafnidiaeth a chynllunio yn rhychwantu llywodraeth, llywodraeth leol, y sector breifat a rolau academaidd a gwybodaeth weithiol o drafnidiaeth yng Nghymru, y DU, Ewrop a Gogledd America, Tseina ac India.

Fe’i cydnabyddir gan y senedd yn Llundain, y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru fel un o’r prif arbenigwyr yng Nghymru a’r DU ar economi a pholisi trafnidiaeth ac mae wedi rhoi tystiolaeth a chynhyrchu adroddiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, Comisiwn Silk, Tŷ’r Cyffredin, 10 Stryd Downing a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae’n darparu cyngor ac yn ymchwilio i, a datblygu, newidiadau polisi ar reilffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau awyr, polisi trafnidiaeth gyfunol, technegau gwerthuso ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth ysgolion. Mae’r pynciau yr ymchwiliodd iddo’n ddiweddar a chwarae rôl ymgynghorol yng Nghymru yn cynnwys: trydannu Prif Linell De Cymru; Maes Awyr Caerdydd – cyflwyniad Comisiwn Davies, cysylltiad Rheilffordd / cysylltiad ffordd M4 ac adolygiad yr Heol Gyflym; cynydd yng ngallu M4 amgen; Metro Rhanbarth Dinas Caerdydd; rhwydwaith bws cenedlaethol TrawsCymru; prosiect trafnidiaeth wledig Bwcabus; trafnidiaeth gyfunol / hawl gwerthu newydd y rheilffordd; mecanwaith newydd – darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus wledig; beicio, cerdded, trafnidiaeth gyhoeddus Teithio Gweithredol.

Mae’n darlledu’n rheolaidd ar BBC Radio Wales, Radio Cymru, Radio 4, Radio 5 Live, teledu BBC Un, S4C, ac ITV Cymru ac mae’n Golofnydd Trafnidiaeth y Western Mail (Wales in Motion).