Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

A Lloyd Hughes

cartref > A Lloyd Hughes

A Lloyd Hughes

Etholwyd A. LLOYD HUGHES ar Gyngor yr Anrhydeddus Gymdeithas yn 1997. Fe’i ganed ym Mhenrhyndeudraeth, Meirionnydd (sy’n rhan o Wynedd bellach) ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (MA, DipAdd). Mae’n gyn-Archifydd Meirionnydd a chyn-Archifydd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; ymddeolodd o’r swydd ddiwethaf yn 2001. Cyfrannodd i Atlas Meirionnydd (1974), Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970 (1997), The Dictionary of Welsh Biography 1941-1970 (2001) ac i’r Atodiadau o 1970 ymlaen arlein. Hefyd ceir cyfraniadau hanesyddol, archifol a llyfryddol ganddo mewn gwahanol gylchgronau. Cynrychiolodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar Gyngor Archifau Cymru, 1995-2001, ac mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol YBC ers 2014. Gwasanaethodd fel Golygydd Mygedol Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ers 1987. Etholwyd ef yn FSA, 1985; FRHistS, 1997.