Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Robert John

Ganed Robert John yn Llantrisant ac mae’n uwch weithredwr gyda chefndir profedig mewn cyllid, eiddo ac adfywiad gyda phrofiad ar fyrddau gweithredol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Enillodd ei radd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac fe’i galwyd i’r bar ym 1972 cyn cyfnod o 14 mlynedd yn y Ddinas yn gweithio i brif fanciau y DU ac UDA. Ym 1987 fe’i apwyntiwyd yn Ddirprwy Brif Weithredwr grŵp Canary Wharf. Rhwng 1992 a 1995 roedd yn bartner yn KPMG cyn dychwelyd i Canary Wharf fel uwch gynghorydd i’r cadeirydd a’r prif weithredwr.

Ers 2004 mae wedi bod yn aelod bwrdd ac yn gynghorydd i gyfres o gwmnïoedd. Ar hyn o bryd mae’n aelod bwrdd Theatr Cerddoriaeth Cymru; yn gynghorydd i Actis, cwmni mawr Ecwiti Preifat, ynghylch eu heiddo yn Affrica is-Sahara ac yn gynghorydd i Ynni Lagŵn Llanw. Yn flaenorol bu’n Gadeirydd Cymru yn Llundain (2007-13) ac mae’n parhau i fod yn aelod o’r Bwrdd; mae’n aleod bwrdd Canolfan Mileniwm Cymru ac yn gyfarwyddwr sefydlol Cardiff and Co. Ymunodd â Chyngor y Gymdeithas Anrhydeddus yn 2015.

Mae’n gymrawd Wilkins, Coleg Downing, Caergrawnt (2013); derbyniodd ddoethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Abertawe (2014) a’i urddo â Chymrawd anrhydeddus Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (2015).