Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Brynley F. Roberts

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Brynley F. Roberts

Dr Brynley F. Roberts

Ymddeolodd Brynley F. Roberts o swydd Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1994. Yn flaenorol, roedd yn Athro yr Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a bu hefyd yn aelod o staff Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers iddo ymddeol, mae wedi parhau â’i waith ymchwil ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg a bywyd a gwaith Edward Lhwyd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ble y mae’n Gymrawd Ymchwil er anrhydedd.

Ei brif weithgarwch arall yw Golygydd presennol y Bywgraffiadur Cymreig, y cyfraniad pwysig parhaus a wnaed gan y Gymdeithas ers 1953, gyda chydweithrediad y Llyfrgell Genedlaethol, i fywyd diwylliannol a deallusol Cymru.