Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Gwenda Sippings

Mae Gwenda Sippings yn dal cymwysterau ar gyfer swydd gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol. Mae hi wedi bod Bennaeth Gwybodaeth yn yr MDU. Yn ddiweddar cyflawnodd rôl Pennaeth Gwybodaeth gyda chwmni cyfreithiol Linklaters LLP. Ei swydd yno oedd llywio datblygu a rheoli rhwydwaith mewnol gwasanaeth gwybodaeth uchelradd byd-eang. Cyn hyn bu’n gweithio ar lefelau uwchradd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bu’n rheolwr dros dro yn llywio cynllun pwysig rheolaeth gwybodaeth a chofnodion Llywodraeth Leol, a hefyd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Gwybodaeth Llywodraeth Ganolog Cyllid a Thollau EM, lle bu’n rhoi newidiadau i reolaeth gwybodaeth a hysbysrwydd mewn grym, yn canlyn cyfuniad Cyllid Gwladol a Thollau ac Ecseis EM. Bu’n gweithio hefyd gyda chwmni Clifford Chance fel Pennaeth Gwybodaeth yn eu swyddfa yn Llundain.

Mae ei phrofiad yn cynnwys strategaeth a llunio polisïau, rheoli a datblygu gwasanaethau gwybodaeth, ac arwain rheoli newid. Mae’n weithgar ar amryw bwyllgorau ymgynghorol proffesiynol yn ogystal ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae gan Gwenda radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth ble mae hi bellach yn Gymrawd Adrannol Anrhydeddus, ac mae’n Gymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (FCLIP) a’r Gymdeithas Frenhinol i Hyrwyddo’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchu a Masnach (FRSA).