Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Tomos Rhys Edwards

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Tomos Rhys Edwards

Tomos Rhys Edwards, yw Uwch Is-lywydd a Phennaeth Cyfathrebu adran Ewrop, Y Dwyrain Canol ac Affrica ar gyfer adran Ymchwil ac Economeg yn Bank of America, y banc byd-eang. 

Mae adran Ymchwil Bank of America ar y brig yn gyson, yng nghylchgrawn Institutional Investor/Extel,ac yn cael ei ystyried y banc blaenllaw fel darparwr.

Yn ei rôl, mae Tomos yn goruchwylio cyfathrebu mewnol, allanol a gweithredol, gan gydweithio â chyfryngau print a darlledu haen uchaf i wellhau brand y cwmni ar draws y rhanbarth.

Mae hefyd yn cydlynu cyfranogiad yr adran mewn cyfryngau cyflogedig, nawdd a digwyddiadau. Ymunodd â Banc America yn 2005, a daw Tomos â dros 25 mlynedd o brofiad yn ei rôl fel gweithiwr cyfathrebu marchnata proffesiynol yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae ei yrfa wedi cynnwys rolau ymgynghori a mewnol mewn sefydliadau fel Text100, FTI Consulting, Llywodraeth Cymru, a BNY Mellon. Mae Tomos wedi darparu arweiniad marchnata a chyfathrebu i gyrff cyhoeddus, cwmnïau rhestredig, a busnesau entrepreneuraidd ar draws amrywiol ddiwydiannau, o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ganddo hanes profedig o ddiffinio, datblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu, cysylltiadau â’r cyfryngau, rheoli cyllidebau, arweinu tîm, a gweithio gydag asiantau.

Roedd ei yrfa cynnar yn y sector FMCG. Mae gan Tomos Ddiploma Ôl-raddedig o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Caerdydd, a gradd mewn Daeareg o Brifysgol Caerdydd. Mae wedi dal swyddi fel Aelod Cyngor o’r PRCA (CMPRCA), Ysgrifennydd y cangenau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) Llundain a Cymru, a chyn aelod o fwrdd Cymry yn Llundain, sefydliad rhwydweithio ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru a Llundain. Bu’n aelod o Lys Prifysgol Caerdydd rhwng 2011 a 2019.