Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Robert Nicholls

Brodor o Benclawdd, addysgwyd Robert yn Ysgol Tre-gŵyr a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gan dderbyn graddau B.Mus., ac yna’n ennill ysgoloriaeth ymchwil i ddilyn gradd M.A., ar hanes cerddoriaeth gorawl yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n gyn-Olygydd Cynnwys Diwylliant S4C a Chyfarwyddwr Tŷ Cerdd- Music Centre Wales.

Cyn hynny, bu’n bennaeth Adran Gerdd yn Ysgol Gyfun Maes-yr-yrfa, Cefneithin ac yn Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yng Nghymru.

Yn arweinydd ac yn organydd adnabyddus yng Nghymru a thu hwnt, mae wedi arwain Cymanfa Ganu Genedlaethol Awstralia ym Melbourne chwech gwaith. Ym mis Ebrill 2013 bu’n arweinydd gwadd Cymanfa Ganu Gogledd America yn Niagara Falls. Mae wedi ymddangos fel organydd swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, gan gyfeilio i brif seremonïau’r Orsedd a’r Gymanfa Ganu Genedlaethol.

Ym mis Hydref 2016 dychwelodd fel organydd gwadd am y pedwerydd waith yng Ngŵyl Gorau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Frenhinol Albert.

Bellach, ers mis Tachwedd 2015, mae Robert yn weinidog ar Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Oxford Circus a newydd ei ethol yn Is-lywydd Undeb Bedyddwyr Cymru.