Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Stephen Roberts

Stephen K. Roberts yw Cyfarwyddwr Emeritws History of Parliament Trust, prosiect ymchwil sy’n creu cyfrif cynhwysfawr o wleidyddiaeth seneddol yn Lloegr ac yna Prydain, o’u cychwyn yn y drydedd ganrif ar ddeg. Ystyrir yr History yn gyffredinol fel un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol, awdurdodol a gydag ymchwil o’r radd flaenaf ym maes astudiaethau Prydeinig. Cyn dod yn Gyfarwyddwr ef oedd Golygydd adran Tŷ’r Cyffredin 1640-1660 yn yr History.

Mae ei wreiddiau yn ddwfn o fewn ac o amgylch Pen y Bont, Morgannwg a chafodd ei addysg yno (yn Ysgol Gyfun Brynteg) ac ym mhrifysgolion Sussex, Exeter a Llundain. Am lawer o flynyddoedd roedd yn diwtor-drefnydd yn y West Midlands ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Workers’ Educational Association (WEA)).

Mae’n Gymrawd y Society of Antiquaries a’r Royal Historical Society, ac yn flaenllaw fel rhan o lywodraeth nifer o gyrff hanesyddol, yn cynnwys y cylchgrawn academaidd, Midland History, Cymdeithas Hanesyddol Swydd Gaerwrangon, Cymdeithas Cromwell a Chymdeithas Dugdale.

Mae Stephen wedi cyhoeddi’n eang ar agweddau o hanes Lloegr a Chymru’r ail ganrif ar bymtheg. Mae ei gynnyrch ar Gymru yn cynnwys rhifyn ar gyfer cymdeithas gofnodion De Cymru, traethodau ar gyfer Hanes Sir Gwent a Hanes Sir Geredigion ynghyd â nifer fawr o gyfraniadau i’r Oxford Dictionary of National Biography.