-
Mrs Anne Arnold BA M Phil
-
Yr Athro W Stuart Cole BA MSc FCIT FILT
-
Dr Rhian Davies MA PhD
-
Yr Athro TMO Charles-Edwards MA DPhil
-
Yr Athro Helen Fulton BA DipCelt PhD
-
A Lloyd Hughes MA FSA FRHistS
-
D Clive Jones-Davies OBE MA MPhil FRSA
-
R Kenneth Kyffin BSc CEng MIEE
-
David Owen-Jones
-
Y Parchedig Ddr D Ben Rees BA MSc(Econ) PhD ThD FCP ARHistS
-
Cecil Roberts BSc(Econ)MComm
-
Ceridwen Roberts BA ACSS
-
Mrs Gwenda Sippings MLib FCLIP FRSA (Cadeirydd y Cyngor)
Jenkin Thomas
Ganwyd JENKIN THOMAS ym mis Ionawr 1938 yng Nghwmgiedd, Cwm Tawe Uchaf. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Maesydderwen, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Michigan, Ann Arbor. Bu’n aelod o Wasanaeth Tramor a Diplomyddol Ei Mawrhydi rhwng 1960 a 1995, gan wasanaethu yn y Swyddfa Dramor a Swyddfa’r Cabinet a thramor. Bu’n gweithio dramor yn Pretoria/Capetown, Saigon, Washington DC, Tokyo, Athens a Pharis (OECD).
David Hilling
Mae gan DAVID HILLING gysylltiadau teuluol â Sir Benfro a Thredegar, ond ym 1947 symudodd ei deulu i Fryste ar ôl cyfnod byr yn unig yn Ysgol y Sir, Tredegar. Mae ganddo raddau BSc ac MSc mewn Daearyddiaeth o Aberystwyth a PhD o Lundain, a hyd nes iddo ymddeol ym 1996, bu’n ddarlithydd Daearyddiaeth ym mhrifysgolion Sheffield, Ghana a Llundain. Mae gan David ddiddordeb ymchwil arbennig mewn trafnidiaeth forwrol a datblygu porthladdoedd ac mae wedi ysgrifennu am ddaearyddiaeth newidiol porthladd Caerdydd. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus Royal Holloway, Prifysgol Llundain, yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ers 1956 ac yn gyn Ysgrifennydd y Clwb Daearyddol, clwb ciniawa yn Llundain i fforwyr a theithwyr ers 1826.
Elinor Talfan Delaney
Ganwyd ELINOR TALFAN DELANEY yn y Barri ac fe’i haddysgwyd yn Abertawe a Chaerdydd. Daeth i Lundain ym 1964 i hyfforddi yn SRN yn Ysbyty Coleg y Brifysgol. Cyn iddi ymddeol yn 2006, bu’n Fetron yn Eglwys Gadeiriol San Paul ac yn Nyrs Practis yn Ninas Llundain.
Mae’n un o sylfaenwyr a darlithydd nyrsio llawfeddygol a rheoli poen ôl-driniaethol Cymdeithas Nyrsys a Bydwragedd Cymru. Mae’n Ymddiriedolwraig yr Ysgol Gymraeg yn Llundain, ar ôl dal amryw swyddi’n ymwneud â’r ysgol ers 40 mlynedd, gan gynnwys pymtheg mlynedd fel Cadeirydd y Llywodraethwyr. Elinor yw sylfaenydd y Cylch Chwarae Cymraeg yn Llundain. Mae’n dal swydd Tywysydd yn Eglwys Gadeiriol San Paul ac Warden Eglwys yn St.Jude-on-the-hill, Hampstead Garden Suburb. Mae Elinor hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Brynley F Roberts
Ymddeolodd BRYNLEY F. ROBERTS o swydd Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1994. Yn flaenorol, roedd yn Athro yr Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe a bu hefyd yn aelod o staff Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers iddo ymddeol, mae wedi parhau â’i waith ymchwil ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg a bywyd a gwaith Edward Lhwyd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ble y mae’n Gymrawd Ymchwil er anrhydedd.
Ei brif weithgarwch arall yw Golygydd presennol y Bywgraffiadur Cymreig, y cyfraniad pwysig parhaus a wnaed gan y Gymdeithas ers 1953, gyda chydweithrediad y Llyfrgell Genedlaethol, i fywyd diwylliannol a deallusol Cymru.
John Elliot
Cafodd JOHN ELLIOTT ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Trecelyn, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caerdydd ble yr astudiodd ar gyfer ei ddoethuriaeth. Dilynodd yrfa mewn diwydiant, yn bennaf yn y diwydiant electroneg rhyngwladol, a chafodd brofiad academaidd fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, ac wedi ymddeol bu’n hanesydd diwydiannol ac yn Athro Gwadd mewn Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Surrey, Roehampton. Mae ei gyswllt â Chymru yn cynnwys ymchwil i’r farchnad lafur a chynlluniau i ddatblygu Bae Caerdydd, hanes diwydiannol cymoedd Ebwy a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, ac ymchwil ar gyfer adfywio’r cymoedd mwyngloddio.



