Gwobr Traethawd Angharad Dodds John.

Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn falch o allu cynnig Gwobr Traethawd o £500 ym mhob un o’r tair blynedd nesaf (2025–2027) am draethawd academaidd gan ysgolhaig ar ddechrau gyrfa. Gall y traethawd fod ar unrhyw bwnc yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol sy’n ymwneud â Chymru, ei hanes, llenyddiaeth (Cymraeg a Saesneg), economeg, gwleidyddiaeth a diwylliant gan gynnwys celf a cherddoriaeth. Mae Gwobr y Traethawd, a gynhigiwyd yn hael gan Robert John a Philippa Dodds John, er cof am eu diweddar ferch, Angharad. 

Croesewir ceisiadau ar gyfer Gwobr Traethawd 2025 gan ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa. Rhaid i draethodau fod yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol ac heb gael eu cyhoeddi gynt. Ni ddylai’r cyfraniadau fod yn fwy na 7,000 o eiriau, gan gynnwys troednodiadau. Cyhoeddir y traethawd llwyddiannus yn Nhrafodion blynyddol y Gymdeithas, un o’r cyfnodolion ysgolheigaidd hynaf ym Mhrydain, a’r unig un i arbenigo mewn astudiaethau rhyngddisgyblaethol Cymreig. Gall cyflwyniadau eraill nas dyfarnwyd y wobr iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu cyhoeddi os ystyrir fod ganddynt deilyngdod digonol.  

Cymhwysedd

Dylai ymgeiswyr am y wobr fod yn ymchwilwyr gyrfa gynnar, hynny yw, y rhai sydd wedi ennill gradd PhD neu MPhil o fewn yr wyth mlynedd diwethaf. 

Sut i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer rownd gyntaf y wobr yw 30 Tachwedd 2024 a dylid cyflwyno traethodau i: Ysgrifennydd y Cymmrodorion (secretary@cymmrodorion.org).

Gellir ysgrifennu’r gwaith yn y Gymraeg neu’r Saesneg a rhaid eu cyflwyno drwy e-bost fel dogfen PDF, gyda thudalennau wedi’u rhifo a phob ffynhonnell wedi’i chyfeirio mewn troednodiadau. Ni ddylai enw’r awdur nac unrhyw fanylion adnabod ymddangos ar enw’r traethawd neu enw’r ffeil gan y bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu barnu’n ddienw. Dylai ymgeiswyr gyflwyno, ynghyd â’u traethawd, CV ar wahân (dwy dudalen ar y mwyaf ) sy’n cynnwys eu henw a’u manylion cyswllt, a dyddiad dyfarnu Ph.D. / M.Phil.

Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â dyfarnu gwobr mewn unrhyw flwyddyn os nad yw safon y cynigion yn ddigon uchel.

Cysylltwch â Helen Fulton (Ymddiriedolwr y Cymmrodorion) am ymholiadau neu ragor o wybodaeth (helen.fulton@bristol.ac.uk).

Meini prawf ar gyfer dyfarnu gwobr

Ystyrir y traethodau gan banel o feirniaid a benodir gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Bydd y beirniaid yn gwneud eu hargymhelliad, gan gynnwys adborth byr ar gyfer pob ymgeisydd, i Gyngor Cymdeithas y Cymmrodorion. Bydd y panel yn asesu traethodau ar sail y meini prawf canlynol:

 • gwreiddioldeb a thrylwyredd yr ymchwil

 • defnydd o ddeunydd ffynhonnell a meistroledd o dystiolaeth gynradd ac eilaidd;

 • eglurder ac ansawdd ysgrifennu wedi’i gyfeirio at gynulleidfa ddeallus ond nid un ysgolheigaidd yn unig;

 • cyfraniad y traethawd i ymchwil ar ddiwylliant Cymru.Hysbysir yr awdur llwyddiannus erbyn 31 Ionawr 2025, a disgwylir y bydd y traethawd llwyddiannus yn cael ei gyflwyno i’w gyhoeddi yn y Trafodion erbyn 30 Ebrill 2025 i’w gyhoeddi dros haf 2025. Dyfernir y Wobr Traethawd i’r ymgeisydd llwyddiannus mewn cyfarfod o’r Gymdeithas yn gynnar yn 2025. Cynhelir rownd nesaf cystadleuaeth y wobr yn 2025-6.


7 Chwefror Medal y Cymmrodorion

Mae’r Cymmrodorion wrth eu bodd yn cyhoeddi y dyfernir Medal y Cymmrodorion eleni i’r Fonesig Siân Phillips am ei chyfraniad nodedig ar hyd ei hoes i’r celfyddydau ac i Gymru.

Dyfernir y fedal yng Nghanolfan Cymry Llundain ar Chwefror 7fed 2024.  Mae croeso cynnes i chi ddod i dderbyniad byr am 7yh ac i seremoni’r fedal am 7.30yh.

Bydd y Fonesig Elan Closs Stephens, Is Lywydd y Cymmrodorion yn rhoi teyrnged i fywyd a gwaith y Fonesig Siân Phillips, a Syr Deian Hopkin, Llywydd y Cymmrodorion, fydd yn cyflwyno’r Fedal.

I archebu tocyn cliciwch yma.Mae nifer cyfyngedig o docynnau


BRYNLEY ROBERTS

Gytda thristwch y daeth y Gymdeithas i wybod am farwolaeth diweddar Brynley Roberts oedd yn aelod ac yn gyn aelod o Gyngor Y Cymmrodorion ers amser maith. Roedd ei gyfraniad i ddiwylliant Cymreig yn aruthrol. Roedd yn un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth ac mae ei gyhoeddiadau a’i rifynnau niferus yn parhau i fod yn sylfeini ym myd astudiaethau Celtaidd.

Roeddem ni’n adnabod Brynley trwy ei waith rhagorol i’r Cymmrodorion dros lawer o flynyddoedd. Roedd yn aelod gwerthfawr o’n Cyngor ac roedd ei waith fel cyd-olygydd y Bywgraffiadur Cymreig a’r Dictionary of Welsh Biography 1941- 1970 mor bwysig er mwyn sefydlu’r DWB fel y ddogfen allweddol i ddathlu pobl nodedig yng Nghymru. Gwyddom hefyd iddo weithio ar gynnwys y DWB hyd yn oed ar ôl iddo ymddeol fel golygydd. Roedd ei gyfraniad yn eithriadol. Rhwng 1985 a 1994 ef oedd Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu cyflwyno medal y Gymdeithas i Brynley yn 2007 yn arwydd o gydnabyddiaeth o’i gyflawniadau di-rif.

Hoffem anfon ein cydymdeimlad mwyaf didwyll i’w deulu a’i gyfeillion.


Cymmrodorion yn ethol Is-Lywyddion Newydd

Mae’n bleser gan y Gymdeithas gyhoeddi fod yr Is-lywydd presennol wedi eu hail-ethol y Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 25 Mai 2023.  Hefyd etholwyd tri Is-lywydd newydd, ac mae’r Gymdeithas yn falch iawn o’u croesawu.

Nhw ydy:

Y Fonesig Elan Closs Stephens DBE FSLW, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a’r Athro Emerita Cyfathrebu a’r Diwydiant Creadigol. Mae’r Fonesig Elan wedi dal nifer o swyddi cyhoeddus amlwg ac ar hyn o bryd hi yw Comisiynydd Etholiadol Cymru a Chadeirydd rheithgor UNESCO ar gyfer y Wobr Ryngwladol ar gyfer yr Economi Greadigol. Ar 2 Mehefin 2023, fe gyhoeddwyd ei bod wedi’i phenodi’n Gadeirydd Dros-Dro Bwrdd y BBC, lle bu yn aelod dros Gymru ers 2017.

Mae’r Athro Laura McAllister CBE FSLW yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gyd-gadeirydd Comisiwn Cyfansoddiadol Annibynnol Cymru. Mae Laura hefyd yn fabolgampwraig o fri ar ôl bod yn Gapten tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru a Chadeirydd Chwaraeon Cymru. Ym mis Ebrill 2023 fe’i hetholwyd yn Is-lywydd UEFA, y person cyntaf o Gymru i wasanaethu ar ei Bwyllgor Gwaith.

Mae Elinor Bennett OBE, y Fonesig Wigley, yn un o gerddorion mwyaf nodedig Cymru gydag enw da yn rhyngwladol fel telynores, fel unawdydd ac fel hyfforddwraig, yn ogystal â bod yn sylfaenydd Coleg Telyn Cymru a chyfarwyddwr Gwyl Rhyngwladol y Delyn. Tra mae clasurol yn bennaf oedd ei  pherfformiadau a’i recordiadau bu hefyd yn perfformio gyda rhai o ffigurau amlycaf cerddoriaeth roc Cymru.

Mae rhestr lawn o’r Is-lywyddion i’w gweld ar wefan y Gymdeithas, https://www.cymmrodorion.org/cy/y-gymdeithas/pwy-yw-pwy/is-lywyddion/


YR ARGLWYDD MORRIS

Dywedodd yr Athro Syr Deian Hopkin, Llywydd y Cymmrodorion:

“Â thristwch mawr, clywodd y Cymmrodorion am farwolaeth un o’i Is-lywyddion hir-wasanaeth, yr Arglwydd Morris o Aberafan. Ar ran y Gymdeithas, carwn ddanfon ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu a’i ffrindiau.”

“Roedd John Morris yn gwas cyhoeddus o fri, yn unigryw am wasanaethu o fewn llywodraethau tri Phrif Weinidog Llafur, gan gynnwys dal swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a bu’n Aelod Seneddol diwyd ac ymroddedig i’w etholaeth am dros ddeugain mlynedd. Tu hwnt i wleidyddiaeth, cyfrannodd yn sylweddol i fywyd cyhoeddus Cymru a’r byd academaidd fel Canghellor Prifysgol Morgannwg a’i olynydd, Prifysgol De Cymru, a Llywydd Ymddiriedolaeth Cymry Llundain, a llawer mwy.”

“Dros y degawdau diwethaf, bu’r Cymmrodorion yn ffodus i gael y fath eiriolwr i’n cynorthwyo. Cofier John fel un o benseiri allweddol datganoli Cymreig, achos y bu’n ei hyrwyddo yn y Blaid Lafur ac yn ehangach ar draws y wlad am fwy na hanner canrif.”

“Bydd deallusrwydd, arweinyddiaeth ac ymrwymiad diwyro John Morris yn golled fawr i Gymru.”


NEGES O’R LLYWYDD

Mae’r Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am fynegu ein tristwch a gofid mawr am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II a chydymdeimlo’n ddiffuant â’r Brenin Siarl III, sydd fel Tywysog Cymru wedi bod yn Noddwr gwerthfawr inni ers blynyddoedd lawer, a hefyd i’r Teulu Brenhinol.  Yn union ganrif yn ôl, ym 1922, dechreuwyd cysylltiad rhwng y  Gymdeithas â’r Teulu Brenhinol pan ddaeth Tywysog Cymru, ar y pryd, yn Llywydd y Gymdeithas. Gwerthawrogwyd ein cysylltiad hir â’r Brenin Siarl, fel Tywysog Cymru, yn fawr gan ein haelodau, a dymunwn bob llwyddiant iddo ar gychwyn ar ei deyrnasiad.


Cymmrodorion yn ethol yr Athro Syr Deian Hopkin yn Llywydd newydd

Heddiw cyhoeddodd yr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (“y Gymdeithas” neu “Cymmrodorion”), sy’n hyrwyddo’r iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru, fod yr Athro Syr Deian Hopkin wedi ei ethol fel y Llywydd newydd. Cadarnhawyd etholiad Syr Deian gan Gyngor y Gymdeithas yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol ar 24 Mai 2022. Mae’n olynu’r Athro Prys Morgan, sydd wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r rôl ar ôl dwy flynedd ar bymtheg. Rhoddodd yr Athro Prys Morgan wasanaeth am gyfnod hwy na bron neb o’i ragflaenwyr a bydd yn parhau i gyflawni amryw ymrwymiadau dros y Gymdeithas am weddill y flwyddyn – gan gynnwys cynnal Seremoni Medal y Cymmrodorion ym mis Mehefin a chadeirio’r ddarlith flynyddol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.

Mae Syr Deian Hopkin yn hanesydd sy’n enedigol o Lanelli. Treuliodd 45 mlynedd mewn addysg uwch mewn chwe phrifysgol, yn cynnwys pum mlynedd ar hugain yn Aberystwyth. Bu’n Is-ganghellor Prifysgol South Bank yn Llundain ac mae wedi gwasanaethu fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Gadeirydd Cymru’n Cofio/ Wales Remembers 1914-18 ac yn Ymgynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru. Ar hyn o bryd, ymhlith gweithgareddau eraill, mae’n ymddiriedolwr elusen yn Ninas Llundain, yn ymgynghorydd addysg ryngwladol ac yn sylwebydd rheolaidd ar BBC Cymru/Wales ar wleidyddiaeth a materion cyfoes.

Dywedodd Syr Deian: “Mae’n fraint fawr cael fy ethol yn Llywydd y Cymmrodorion, sefydliad sydd wedi cyfrannu cymaint at ddatblygiad Cymru ers yn agos i dair canrif. Bu Prys yn arweinydd ysbrydoledig sydd wedi sicrhau llwyddiant parhaus y Gymdeithas ac mae’n anrhydedd i mi ei ddilyn yn y swydd bwysig hon. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd, yr Is-lywyddion a’r aelodau i gynorthwyo’r Gymdeithas yn y cais i hybu ei datblygiad ac ymestyn ei gyrhaeddiad.”

Dywedodd yr Athro Prys Morgan, Cyn-Lywydd y Cymmrodorion (2005-2022): “Bu’n anrhydedd mawr i mi i wasanaethu fel Llywydd y Cymmrodorion ers 2005. Trwy gydol y cyfnod hwn, cefais gefnogaeth ddiwyro o bob rhan o’n cymuned, gan gynnwys nifer o siaradwyr a chyfranwyr i’r Trafodion. Rwy’n hyderus y bydd y Gymdeithas yn awr yn elwa o brofiad ac egni Syr Deian; yr wyf yn gwybod ei fod mor frwd ag yr oeddwn i i ddefnyddio’r Llywyddiaeth i hyrwyddo gwaith y Cymmrodorion yn y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Ceridwen Roberts, Cadeirydd Cyngor y Cymmrodorion: “Rwyf wrth fy modd bod y Gymdeithas wedi ethol Syr Deian Hopkin yn Llywydd. Fel un o’n prif haneswyr, gydag ehangder profiad ar draws gwleidyddiaeth, busnes ac addysg, bydd Syr Deian yn helpu llunio dyfodol y Gymdeithas. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i ymroddiad a chyfraniad yr Athro Morgan am ei flynyddoedd o wasanaeth fel Llywydd. Edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl mor aml â phosibl i’n darlithiau, fel un o gyfeillion pennaf y Cymmrodorion.”


Trysorydd Newydd

Mae’n bleser mawr gan y Gymdeithas gyhoeddi bod Tomos Packer wedi ei apwyntio fel Trysorydd. Mae Tomos yn gweithio fel Pennaeth y Grŵp Economeg yn adran Risg banc HSBC yn Llundain.

Cyn hynny buodd yn gyfarwyddwr yn adran risg Banc Barclays a hefyd fel dadansoddwr marchnadoedd cynyddol i gwmni buddsoddiant. Graddiodd o Goleg Prifysgol Llundain gyda gradd Meistr mewn Economeg Wleidyddol yn 2001. Ganwyd Tom yng Nghaerdydd ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.

Mae Huw Wynne-Griffith wedi gadael fel Trysorydd ar ôl un mlynedd ar ddeg, gan adael y Cymmrodorion mewn sefyllfa ariannol gadarn gyda’r aelodaeth yn cynyddu.

Dywedodd Ceridwen Roberts, Cadeirydd Cyngor y Cymmrodorion “Rydym wrth ein bodd i groesawu Tomos fel Trysorydd. Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi cyfraniad Huw yn fawr o ran ei lwyddiant yn rheoli ein cyllid a’n buddsoddiadau cystal ond hefyd yn tywys datblygiad cyffredinol y Gymdeithas ers 2010.


Rhaglen ddarlithoedd 2021/2022

Mae’n bleser gan y Cymmrodorion gyhoeddi ei raglen ddarlithoedd ar gyfer y flwyddyn i ddod, sydd yn gymysgedd eclectig o gyfraniadau ar bynciau sy’n rhychwantu celfyddydau, gwyddorau, llenyddiaeth, iaith a gwleidyddiaeth Cymru.

Bydd amrywiaeth o arbenigwyr ac arweinwyr cyfoes yn siarad â’r gymdeithas yn ystod y flwyddyn nesaf. Ymhlith y rhain mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr y Canolfan Llywodraethiant Cymru; ac Elinor Bennett OBE, y delynores gyngerdd o fri rhyngwladol.

Bydd darlithoedd yn cael eu cynnal yng nghanol Llundain yn y Gymdeithas Feddygol, oni bai bod y rhaglen yn dangos fel arall.

Bellach bydd ein darlithoedd ar gael ar-lein a byddant wedi eu recordio. Ewch i’n gwefan i ymuno â ni neu i ddal i fyny.

https://www.cymmrodorion.org/cy/talks/


Cymmrodorion yn lansio chwiliad am Drysorydd

A fyddech chi’n ystyried gwneud cyfraniad i barhad a hyrwyddiant diwylliant a threftadaeth Cymru? Os felly, beth am ddarganfod mwy am ddod yn Drysorydd Mygedol newydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Dwy brif swyddogaeth y Trysorydd Mygedol yw cynnal cofnodion ariannol y Gymdeithas ynghyd â chronfa ddata ei haelodeth.

Mae’r ddau weithgaredd ar wahân (ond yn berthnasol i’w gilydd) ac yn ddiffwdan ac nid yw’n ofynnol cael sgil na chymhwyster cyfrifydd ond mae’n hanfodol bod yn gymwys (ar lefel sylfaenol) mewn MS Excel a MS Word. Gwneir y rhan fwyaf o’r holl drafodion yn ddi-bapur a gwneir y derbynebau’n electronig. Nid yw’r rôl yn heriol yn dechnegol a gall fod yn ddiddorol os ydych chi’n hyddysg yn Excel.

Oherwydd bod hon yn system awtomatig nid effeithiwyd ar y rôl gan y cyfnod clo. Dyluniwyd y taenlenni, a ddefnyddir ar hyn o bryd, yn bwrpasol i wneud y dasg ariannol a chadw cofnodion yr aelodaeth mor rhwydd â phosibl. Darperir esboniadau a chyfarwyddiadau cyflawn yn ystod cyfnod y trosglwyddo.

Mae’r Trysorydd Mygedol yn ymddiriedolwr ac yn aelod o’r Cyngor ac mae’r rôl hefyd yn cynnwys eistedd ar Bwyllgor Gweithredu’r Gymdeithas sy’n rheoli gweithgareddau cyffredinol y Gymdeithas a’i gwefan (a gefnogir gan weithwyr proffesiynol TG). Hefyd mae’r Pwyllgor Gweithredu yn cynnig argymhellion i’r  Cyngor ar strategaeth y dyfodol. Mae’r Cyngor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn yn Llundain a disgwylir i’r Trysorydd Mygedol fynychu’r cyfarfodydd hyn. Mae’r Pwyllgor Gweithredu’n cyfarfod yn achlysurol. Yn ddiweddar, oherwydd y pandemig, cynhaliwyd yr holl gyfarfodydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw’n hanfodol bod y Trysorydd Mygedol yn byw yn Llundain, nag ychwaith bod yn rhaid iddo/iddi siarad Cymraeg (er efallai byddai hyn o gymorth).

Er nad oes tâl am y swydd hon mae hi’n cynrychioli cyfraniad sylweddol i Gymru a’i threftadaeth. I ddod i wybod mwy am yr hyn mae’r Gymdeithas yn ei gyflawni ewch i www.cymmrodorion.org

Pe baech chi (neu rywun o’ch cydnabod) yn gallu helpu’r Gymdeithas trwy ddod yn Drysorydd Mygedol, a phe hoffech drafod y gwaith yn fwy manwl, cysylltwch ag un ai’r Trysorydd Mygedol ar treasurer@cymmrodorion.org neu’r Ysgrifennydd Mygedol ar secretary@cymmrodorion.org


Dr Osian Ellis

Tristwch mawr i’r Gymdeithas yw cyhoeddi marwolaeth Dr Osian Ellis, CBE, y telynor byd-enwog. Roedd Dr Ellis yn aelod o’r Gymdeithas ers amser maith ac yn Is-Lywydd mawr ei barch. Roedd yn Athro y Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac, am lawer o flynyddoedd, y Prif Delynor gyda Cherddorfa Symffoni Llundain. Dywedodd Elinor Bennett, cyfarwyddwr Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, “Ef oedd y telynor mwyaf enwog a rhagorol ei gyfnod, ac fel athro telyn, cyfansoddwr, trefnydd, canwr penillion ac ysgolhaig, cyfrannodd yn eang i gerddoriaeth traddodiadol ein cenedl yn ogystal ag i ddatblygiadau yng ngherddoriaeth glasurol Ewropeaidd ei gyfnod a bu’n ysbrydoliaeth i nifer fawr.” Roedd yn gyfaill oesol i Benjamin Britten a chydweithredodd ag ef ar sawl achlysur ac ysgrifennodd Britten ei gyfres Telyn yn arbennig iddo.

Anfonwn ein cydymdeimlad didwyll i’w deulu a’i ffrindiau.


Y Cymmrodorion yn apwyntio dau aelod newydd i’r Cyngor

Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, sy’n hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celf a gwyddoniaeth Cymru, yn hynod falch i ddweud eu bod wedi apwyntio Dr. Elizabeth Siberry a Theo Davies-Lewis yn aelodau newydd i’r Cyngor.

Ar hyn o bryd mae Dr. Siberry yn eistedd ar Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Gregynog ac Ymddiriedolaeth Celf Brycheiniog, ac ar fwrdd golygyddol y cylchgrawn Brycheiniog. Mae hi wedi ymddeol fel gwas sifil; mae hi’n hanesydd ac yn ysgrifennu ar hanes y Canol Oesoedd a hanes Sir Frycheiniog.

Magwyd Theo Davies-Lewis yn Llanelli ac mae’n gweithio yn Llundain i’r ymgynghoriaeth cyfathrebu, Finsbury. Ef sylfaenodd Darogan Talent, rhwydwaith swyddi i ddenu graddedigion i weithio yng Nghymru. Mae’n ysgrifennu a darlledu am Gymru ar BBC Cymru, Nation Cymru, y Western Mail, The Times, The Spectator a Times Radio.

Dywedodd Ceridwen Roberts, Cadeirydd Cyngor y Cymmrodorion: “Ar adeg cyffrous yn ein hanes fel Cymdeithas rydym wrth ein bodd i groesawu dau aelod newydd i’r Cyngor. Mae 2020 wedi bod yn heriol ond rydym wedi cynnig ein darlithoedd ar-lein a bydd Liz Siberry a Theo Davies-Lewis yn ein cynorthwyo i ddatblygu ein rhaglenni a’n all-gyrhaeddiad. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn i ailymgynnull a gweld ein haelodau a’n cyfeillion eto yn y cnawd yn ein darlithoedd, ond hyd yn oed pan bydd hyn yn bosibl, rydw i’n gobeithio y gallwn barhau i gynnig ein rhaglen ar-lein fel bod pawb yn gallu elwa o’r wledd.”

Wrth sôn am ei hapwyntiad dywedodd Dr. Siberry: “Rydw i’n hynod falch i ymuno â Chyngor Cymdeithas y Cymmrodorion ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr er mwyn cefnogi a datblygu gwaith pwysig y Gymdeithas.”

Roedd Theo Davies-Lewis hefyd wedi ychwanegu: “Rydw i’n teimlo’n gyffrous fy mod i’n ymuno â’r Cymmrodorion pan fo’r Gymdeithas wedi mynd ar-lein am y tro cyntaf gan ddenu cynulleidfaoedd ehangach i’w amrywiaeth wych o ddarlithoedd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Cyngor ac aelodaeth y Gymdeithas er mwyn helpu’r Cymmrodorion i gryfhau eu presenoldeb ar-lein.”  

Yn gynharach eleni cynhaliodd y Cymmrodorion eu darlith gyntaf ar-lein sef Darlith Syr Thomas Parry-Williams yn Eisteddfod 2020 a draddodwyd gan Yr Athro Gerwyn Wiliams, ar y gerdd Mab Y Bwthyn gan Cynan; yn yr hydref cafwyd dwy ddarlith arall ar-lein sef Jews of Wales gan Dr. Cai Parry-Jones, ac Archives for Welsh Architecture gan Peter Wakelin. 

Cyhoeddir rhaglen 2021 y Gymdeithas yn fuan ar-lein a bydd yn cynnwys sgyrsiau ar: Gwrthwynebwyr cydwybodol Cymreig;  Iorwerth Peate, un o sylfaenwyr Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru;  Syr Ben Bowen Thomas ac Unesco;  a Catrin o Ferain, a elwir o bryd i’w gilydd yn Fam Cymru.

Cynhelir darlith ar-lein nesaf y Cymmrodorion ar Ragfyr 10fed 2020 am 18.30 gan Dr. Rhian Davies ar The Musical Vision for Wales of Walford Davies. Mae croeso cynnes i bawb i ymuno â’n darlith, yn ddi-dâl,  trwy ein gwefan www.cymmrodorion.org.

Nodyn i’r Golygyddion:

Sylfaenwyd y Cymmrodorion yn 1751 gan Gymry oedd yn byw ac yn gweithio yn Llundain ac ers hynny mae’r Gymdeithas wedi hyrwyddo datblygiad rhai o sefydliadau mwyaf pwysig Cymru. Amcan cyfres darlithoedd y Gymdeithas, yn Gymraeg a Saesneg, yw adlewyrchu ar yr hyn sydd orau yn gyfredol yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth, celf a gwyddoniaeth gan gynnwys y cyfle i drafod Cymru sy’n newid yn barhaus. Cyhoeddir y darlithoedd yn ei gylchgrawn blynyddol o’r enw Y Trafodion. Fe’i cefnogir gan ei aelodaeth, ond mae’r darlithoedd yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim.

www.cymmrodorion.org

Trydar: @cymmrodorion


JAN MORRIS

Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn anfon eu cydymdeimlad i deulu a chyfeillion Jan Morris yn dilyn cyhoeddi ei marwolaeth ar Dachwedd 20fed. Roedd Jan Morris yn hynod falch o’i threftadaeth Gymreig ac roedd ei chyfraniad fel awdur a hanesydd yn sylweddol. Cydnabyddwyd hyn gan sawl sefydliad a’i anrhydeddodd hi, yn cynnwys y Gymdeithas. Yn 2016, mewn dathliad i’r teulu ac aelodau o’r Gymdeithas yng ngogledd Cymru, dyfarnwyd iddi Fedal y Cymmrodorion a roddir am wasanaeth rhagorol a nodedig yng Nghymru a thu hwnt. Bydd ei gwaith yn byw ar ei hôl.


Syr John Meurig Thomas

Mae Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion yn anfon cydymdeimlad at deulu, cyfeillion a chydweithwyr Syr John yn dilyn ei fawrolaeth ar Dachwedd 13eg 2020.

Nid yn unig oedd Syr John yn wyddonydd blaenllaw, byd-eang ac yn academydd ond roedd hefyd yn Gymro balch a chadarn ac yn driw i’w dreftadaeth Cymraeg. Ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Is-Lywydd Y Cymmrodorion. Traddododd ddarlithoedd i’r Gymdeithas ar wahanol achlysuron, yn fwyaf diweddar yn 2017 pan draddododd ddarlith hynod ddiddorol ar “W.R. Grove, the Fuel Cell and the hydrogen economy”. Gwnaeth Syr John i ni sylweddoli na ddylid anghofio Grove.

Roedd Syr John wedi derbyn nifer fawr o anrhydeddau a dyfarniadau cyhoeddus a phroffesiynol yn cynnwys Medal y Gymdeithas a roddir am wasanaeth rhagorol a gwaith nodedig yng Nghymru a thu hwnt. Rhannodd seremoni’r fedal yn 2003 ym Mhrifysgol Bangor gyda Emyr Humphreys ac roedd yr achlysur yn un hynod o hapus, yn adlewyrchu’r parch a’r cynhesrwydd tuag at y ddau ŵr bonheddig.

Mae Cymru wedi colli dyn arbennig a chofiwn amdano gydag anwylder mawr.


Emyr Hymphreys

Newyddion trist iawn am farwolaeth cawr o lenor, Emyr Humphreys.  Llynedd buom yn dathlu ei 100fed penblwydd gyda darlith, bellach yn bodlediad ar ein gwefan.  Derbyniodd Medal anrhydeddus y Gymdeithas.  Bydd yn golled enfawr. Estynwn ein cydymdeimlad dwys a’i holl deulu. 


Newyddion mis Medi

Our podcasts online

We now have several podcasts of past lectures on our website. The most recent is our 2020 June Gruffydd Memorial Lecture with the Montgomeryshire Society; “The Novelist Elena Puw Morgan: Rethinking Modernism”. The novelist’s granddaughter, Dr Mererid Puw Davies, gave this talk, and it was co-authored with her sister Angharad Puw Davies. It is well worth listening to.

For more podcasts on subjects as varied as Emyr Humphreys, Sir Kyffin Williams, the Welsh economy, the Dictionary of Welsh Biography and Wales and Agincourt go to Previous Talks. You will also find on here the video of Gerwyn Wiliams’ excellent Eisteddfod Lecture on Cynan’s Mab y Bwthyn.


North American Festival of Wales 2020

The North American Welsh newspaper, www.ninnau.com, are kindly publicising our new online lecture series which we hope will be watched across the world. You can enjoy in September their online North American Festival of Wales. Visit festivalofwales.org 


Mastermind Cymru

Mae Mastermind Cymru yn dychwelyd ar S4C ac mae’r cynhyrchydd, BBC Studios, yn chwilio am ymgeiswyr. Os hoffech chi’r cyfle i eistedd yn y gadair ddu, mae’r manylion ar LINK


Tracing Sculptures by John Evan Thomas

We have been asked to help trace works by John Evan Thomas, who was born in Brecon and became one of Wales’ foremost sculptors of the 19th century. He and his brothers were members of the Cymmrodorion. If you can help download the pdf here.