Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

newyddion

cartref > Newyddion > Y Cymmrodorion yn apwyntio dau aelod newydd i’r Cyngor

Y Cymmrodorion yn apwyntio dau aelod newydd i’r Cyngor

Thursday 3 December, 2020

Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, sy’n hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celf a gwyddoniaeth Cymru, yn hynod falch i ddweud eu bod wedi apwyntio Dr. Elizabeth Siberry a Theo Davies-Lewis yn aelodau newydd i’r Cyngor.

Ar hyn o bryd mae Dr. Siberry yn eistedd ar Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Gregynog ac Ymddiriedolaeth Celf Brycheiniog, ac ar fwrdd golygyddol y cylchgrawn Brycheiniog. Mae hi wedi ymddeol fel gwas sifil; mae hi’n hanesydd ac yn ysgrifennu ar hanes y Canol Oesoedd a hanes Sir Frycheiniog.

Magwyd Theo Davies-Lewis yn Llanelli ac mae’n gweithio yn Llundain i’r ymgynghoriaeth cyfathrebu, Finsbury. Ef sylfaenodd Darogan Talent, rhwydwaith swyddi i ddenu graddedigion i weithio yng Nghymru. Mae’n ysgrifennu a darlledu am Gymru ar BBC Cymru, Nation Cymru, y Western Mail, The Times, The Spectator a Times Radio.

Dywedodd Ceridwen Roberts, Cadeirydd Cyngor y Cymmrodorion: “Ar adeg cyffrous yn ein hanes fel Cymdeithas rydym wrth ein bodd i groesawu dau aelod newydd i’r Cyngor. Mae 2020 wedi bod yn heriol ond rydym wedi cynnig ein darlithoedd ar-lein a bydd Liz Siberry a Theo Davies-Lewis yn ein cynorthwyo i ddatblygu ein rhaglenni a’n all-gyrhaeddiad. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn i ailymgynnull a gweld ein haelodau a’n cyfeillion eto yn y cnawd yn ein darlithoedd, ond hyd yn oed pan bydd hyn yn bosibl, rydw i’n gobeithio y gallwn barhau i gynnig ein rhaglen ar-lein fel bod pawb yn gallu elwa o’r wledd.”

Wrth sôn am ei hapwyntiad dywedodd Dr. Siberry: “Rydw i’n hynod falch i ymuno â Chyngor Cymdeithas y Cymmrodorion ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr er mwyn cefnogi a datblygu gwaith pwysig y Gymdeithas.”

Roedd Theo Davies-Lewis hefyd wedi ychwanegu: “Rydw i’n teimlo’n gyffrous fy mod i’n ymuno â’r Cymmrodorion pan fo’r Gymdeithas wedi mynd ar-lein am y tro cyntaf gan ddenu cynulleidfaoedd ehangach i’w amrywiaeth wych o ddarlithoedd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Cyngor ac aelodaeth y Gymdeithas er mwyn helpu’r Cymmrodorion i gryfhau eu presenoldeb ar-lein.”  

Yn gynharach eleni cynhaliodd y Cymmrodorion eu darlith gyntaf ar-lein sef Darlith Syr Thomas Parry-Williams yn Eisteddfod 2020 a draddodwyd gan Yr Athro Gerwyn Wiliams, ar y gerdd Mab Y Bwthyn gan Cynan; yn yr hydref cafwyd dwy ddarlith arall ar-lein sef Jews of Wales gan Dr. Cai Parry-Jones, ac Archives for Welsh Architecture gan Peter Wakelin. 

Cyhoeddir rhaglen 2021 y Gymdeithas yn fuan ar-lein a bydd yn cynnwys sgyrsiau ar: Gwrthwynebwyr cydwybodol Cymreig;  Iorwerth Peate, un o sylfaenwyr Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru;  Syr Ben Bowen Thomas ac Unesco;  a Catrin o Ferain, a elwir o bryd i’w gilydd yn Fam Cymru.

Cynhelir darlith ar-lein nesaf y Cymmrodorion ar Ragfyr 10fed 2020 am 18.30 gan Dr. Rhian Davies ar The Musical Vision for Wales of Walford Davies. Mae croeso cynnes i bawb i ymuno â’n darlith, yn ddi-dâl,  trwy ein gwefan www.cymmrodorion.org.

Nodyn i’r Golygyddion:

Sylfaenwyd y Cymmrodorion yn 1751 gan Gymry oedd yn byw ac yn gweithio yn Llundain ac ers hynny mae’r Gymdeithas wedi hyrwyddo datblygiad rhai o sefydliadau mwyaf pwysig Cymru. Amcan cyfres darlithoedd y Gymdeithas, yn Gymraeg a Saesneg, yw adlewyrchu ar yr hyn sydd orau yn gyfredol yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth, celf a gwyddoniaeth gan gynnwys y cyfle i drafod Cymru sy’n newid yn barhaus. Cyhoeddir y darlithoedd yn ei gylchgrawn blynyddol o’r enw Y Trafodion. Fe’i cefnogir gan ei aelodaeth, ond mae’r darlithoedd yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim.

www.cymmrodorion.org

Trydar: @cymmrodorion