Trysorydd Newydd
Mae’n bleser mawr gan y Gymdeithas gyhoeddi bod Tomos Packer wedi ei apwyntio fel Trysorydd. Mae Tomos yn gweithio fel Pennaeth y Grŵp Economeg yn adran Risg banc HSBC yn Llundain.
Cyn hynny buodd yn gyfarwyddwr yn adran risg Banc Barclays a hefyd fel dadansoddwr marchnadoedd cynyddol i gwmni buddsoddiant. Graddiodd o Goleg Prifysgol Llundain gyda gradd Meistr mewn Economeg Wleidyddol yn 2001. Ganwyd Tom yng Nghaerdydd ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.
Mae Huw Wynne-Griffith wedi gadael fel Trysorydd ar ôl un mlynedd ar ddeg, gan adael y Cymmrodorion mewn sefyllfa ariannol gadarn gyda’r aelodaeth yn cynyddu.
Dywedodd Ceridwen Roberts, Cadeirydd Cyngor y Cymmrodorion “Rydym wrth ein bodd i groesawu Tomos fel Trysorydd. Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi cyfraniad Huw yn fawr o ran ei lwyddiant yn rheoli ein cyllid a’n buddsoddiadau cystal ond hefyd yn tywys datblygiad cyffredinol y Gymdeithas ers 2010.”