Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

newyddion

cartref > Newyddion > Syr John Meurig Thomas

Syr John Meurig Thomas

Thursday 19 November, 2020

Mae Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion yn anfon cydymdeimlad at deulu, cyfeillion a chydweithwyr Syr John yn dilyn ei fawrolaeth ar Dachwedd 13eg 2020.

Nid yn unig oedd Syr John yn wyddonydd blaenllaw, byd-eang ac yn academydd ond roedd hefyd yn Gymro balch a chadarn ac yn driw i’w dreftadaeth Cymraeg. Ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Is-Lywydd Y Cymmrodorion. Traddododd ddarlithoedd i’r Gymdeithas ar wahanol achlysuron, yn fwyaf diweddar yn 2017 pan draddododd ddarlith hynod ddiddorol ar “W.R. Grove, the Fuel Cell and the hydrogen economy”. Gwnaeth Syr John i ni sylweddoli na ddylid anghofio Grove.

Roedd Syr John wedi derbyn nifer fawr o anrhydeddau a dyfarniadau cyhoeddus a phroffesiynol yn cynnwys Medal y Gymdeithas a roddir am wasanaeth rhagorol a gwaith nodedig yng Nghymru a thu hwnt. Rhannodd seremoni’r fedal yn 2003 ym Mhrifysgol Bangor gyda Emyr Humphreys ac roedd yr achlysur yn un hynod o hapus, yn adlewyrchu’r parch a’r cynhesrwydd tuag at y ddau ŵr bonheddig.

Mae Cymru wedi colli dyn arbennig a chofiwn amdano gydag anwylder mawr.