Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

newyddion

cartref > Newyddion > Cymmrodorion yn ethol yr Athro Syr Deian Hopkin yn Llywydd newydd

Cymmrodorion yn ethol yr Athro Syr Deian Hopkin yn Llywydd newydd

Thursday 23 June, 2022

Heddiw cyhoeddodd yr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (“y Gymdeithas” neu “Cymmrodorion”), sy’n hyrwyddo’r iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru, fod yr Athro Syr Deian Hopkin wedi ei ethol fel y Llywydd newydd. Cadarnhawyd etholiad Syr Deian gan Gyngor y Gymdeithas yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol ar 24 Mai 2022. Mae’n olynu’r Athro Prys Morgan, sydd wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r rôl ar ôl dwy flynedd ar bymtheg. Rhoddodd yr Athro Prys Morgan wasanaeth am gyfnod hwy na bron neb o’i ragflaenwyr a bydd yn parhau i gyflawni amryw ymrwymiadau dros y Gymdeithas am weddill y flwyddyn – gan gynnwys cynnal Seremoni Medal y Cymmrodorion ym mis Mehefin a chadeirio’r ddarlith flynyddol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.

Mae Syr Deian Hopkin yn hanesydd sy’n enedigol o Lanelli. Treuliodd 45 mlynedd mewn addysg uwch mewn chwe phrifysgol, yn cynnwys pum mlynedd ar hugain yn Aberystwyth. Bu’n Is-ganghellor Prifysgol South Bank yn Llundain ac mae wedi gwasanaethu fel Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Gadeirydd Cymru’n Cofio/ Wales Remembers 1914-18 ac yn Ymgynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru. Ar hyn o bryd, ymhlith gweithgareddau eraill, mae’n ymddiriedolwr elusen yn Ninas Llundain, yn ymgynghorydd addysg ryngwladol ac yn sylwebydd rheolaidd ar BBC Cymru/Wales ar wleidyddiaeth a materion cyfoes.

Dywedodd Syr Deian: “Mae’n fraint fawr cael fy ethol yn Llywydd y Cymmrodorion, sefydliad sydd wedi cyfrannu cymaint at ddatblygiad Cymru ers yn agos i dair canrif. Bu Prys yn arweinydd ysbrydoledig sydd wedi sicrhau llwyddiant parhaus y Gymdeithas ac mae’n anrhydedd i mi ei ddilyn yn y swydd bwysig hon. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd, yr Is-lywyddion a’r aelodau i gynorthwyo’r Gymdeithas yn y cais i hybu ei datblygiad ac ymestyn ei gyrhaeddiad.”

Dywedodd yr Athro Prys Morgan, Cyn-Lywydd y Cymmrodorion (2005-2022): “Bu’n anrhydedd mawr i mi i wasanaethu fel Llywydd y Cymmrodorion ers 2005. Trwy gydol y cyfnod hwn, cefais gefnogaeth ddiwyro o bob rhan o’n cymuned, gan gynnwys nifer o siaradwyr a chyfranwyr i’r Trafodion. Rwy’n hyderus y bydd y Gymdeithas yn awr yn elwa o brofiad ac egni Syr Deian; yr wyf yn gwybod ei fod mor frwd ag yr oeddwn i i ddefnyddio’r Llywyddiaeth i hyrwyddo gwaith y Cymmrodorion yn y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Ceridwen Roberts, Cadeirydd Cyngor y Cymmrodorion: “Rwyf wrth fy modd bod y Gymdeithas wedi ethol Syr Deian Hopkin yn Llywydd. Fel un o’n prif haneswyr, gydag ehangder profiad ar draws gwleidyddiaeth, busnes ac addysg, bydd Syr Deian yn helpu llunio dyfodol y Gymdeithas. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i ymroddiad a chyfraniad yr Athro Morgan am ei flynyddoedd o wasanaeth fel Llywydd. Edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl mor aml â phosibl i’n darlithiau, fel un o gyfeillion pennaf y Cymmrodorion.”