Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Rhian Medi Roberts

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Rhian Medi Roberts

Rhian Medi RobertsMagwyd Rhian Medi Roberts yn Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, a symudodd i Lundain ym 1993 i weithio yn y senedd. Heddiw mae Rhian yn rheoli swyddfa yr holl Aelodau Seneddol ac Arglwyddi cyfredol Plaid Cymru. Daw Rhian o gefndir perfformio ac Eisteddfodol ac mae wedi ennill sawl un o’r prif wobrau adrodd yn cynnwys y Rhuban Glas, a’r nodedig Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, ym 1999. Yn dilyn hun fe’i gwnaed yn aelod o urdd Ofydd Gorsedd y Beirdd. Yn 2010, fe’i dyrchafwyd i’r Wisg Wen, yn dilyn ei hymgyrch llwyddiannus i gael cofeb i gofio’r Orsedd gyntaf a ffurfiwyd gan Iolo Morgannwg ar ben Bryn y Briallu ym 1792. Mae Rhian yn ceisio hyrwyddo Cymru pryd bynnag y gall a chymerodd ran yn codi cofeb i Catrin Glyndŵr a’i merched yn St Swithins, Canon Street. Bu’n ymwneud â hyrwyddo Llaethdai Cymreig yn Llundain a hefyd godi proffil yr AS a’r Ymgyrchwr Heddwch, Henry Richard. Mae Rhian wedi creu Llwybr Cymreig unigryw a diddorol, sy’n mynd ar ôl hanes y Cymry yn Llundain, ac mae wedi ymuno â phartneriaeth busnes gyda chwmni yng ngogledd Cymru i hyrwyddo a darparu sylwebaeth hanesyddol ar y teithiau. Mae’n ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio Cymraeg. Mae wedi cynnal nifer o weithdai yn Nwyrain Ewrop, gan annog cyfranogaeth menywod mewn gwleidyddiaeth. Mae’n cynrychioli Plaid ar fwrdd Comisiwn Etholiadol y DU, ac yn trefnu digwyddiadau yn rheolaidd yn Nhŷ’r Cyffredin, sydd bellach wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr y senedd .