Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Llywydd

Yr Athro Syr Deian Hopkin
PhD Hon DLitt LlD DUniv FRHistS FRSA FCGI

Wedi’i eni yn Llanelli a’i addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri a Phrifysgol Aberystwyth, mae Deian yn hanesydd y mudiad Llafur ac undebau llafur ac o’r defnydd o dechnolegau newydd mewn hanes ac yn olygydd- sefydlu Llafur, Cylchgrawn Hanes Pobl Cymru. Ar ôl 25 mlynedd yn Adran Hanes Aberystwyth bu’n Ddeon y Gwyddorau Dynol ac yn Is-Brofost ym Mhrifysgol Guildhall Llundain ac yna’n Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank Llundain.

Dros y blynyddoedd mae wedi gwasanaethu ar lawer o gyrff cyhoeddus a chynghorol, byrddau prifysgolion a cholegau, ymddiriedolaethau ac elusennau ac ymhlith amryw swyddogaethau cyfredol mae’n ymddiriedolwr y Cyngor Academyddion mewn Perygl (CARA) ac Ymddiriedolaeth Cwmni Anrhydeddus yr Addysgwyr yn Ninas Llundain, yn gwasanaethu ar y Comisiwn Addysg Uwch ac yn gweithio ym maes ymgynghori a darlledu.

Bu’n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 2011 a 2015 a, hyd 2021, yn Gynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru a Chadeirydd Cymru’n Cofio 1914-18. Yn Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol, yr RSA, City and Guilds a CIBSE mae wedi derbyn graddau er anrhydedd gan chwe phrifysgol gan gynnwys Llundain, McGill a’r Brifysgol Agored a Gwobr Arbennig Dewi Sant y Prif Weinidog yn 2019. Yn 2009 cafodd ei urddo’n farchog am wasanaethau i addysg uwch a sgiliau yn y DU.

Traddododd Darlith Goffa Syr T H Parry-Williams yn 2000.