Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Mererid Puw Davies

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Mererid Puw Davies

Magwyd Mererid Puw Davies MA, MSt, DPhil (Oxon), CCDdC yn Sir Amwythig, Sir Gaerhirfryn a Sir y Fflint ac astudiodd Ieithoedd Modern yn Prifysgolion Rhydychen a Hamburg. Bu’n ddeiliad nifer o ysgoloriaethau a chymrodoriaethau ymchwil, gan gynnwys Cymrodoriaeth trwy Arholiad yng Ngholeg y Fadlen, Rhyduchen, a Chymrodoriaeth Alexander von Humboldt yn y Freie Universität Berlin (Prifysgol Rydd Berlin). Mae Mererid yn Athro mewn Almaeneg yn Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) lle mae hi wedi treulio rhan fawr o’i gyrfa hyd yma.

Mae Mererid yn falch o fod yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, yn aelod o’i Chyngor a Chadeirydd ei Grŵp Ymgynghori ar y Gymraeg; mae wedi gwasanaethu ar sawl un o’i phwyllgorau eraill yn ogystal. Mae’n Olygydd Cyfranogol i’r cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt.

Yn maes llenyddiaeth, ffilm a diwylliant Almaeneg modern mae arbenigedd Mereid fel ysgolhaig, yn ogystal ag ym maes beirniadaeth greadigol, astudiaethau diwylliannol cymharol a llên a diwylliant Cymru. Mae’n awdur llyfrau i blant, dwy gyfrol o farddoniaeth a chasgliad o ysgrifau creadigol-feirniadol, Y Sbenglas Dirgel.