Cadeirydd y Cyngor

english

Gwenda Sippings

GWENDA SIPPINGS yw Pennaeth Gwybodaeth yng nghwmni cyfreithwyr Linklaters LLP, a’i swyddogaeth yw arwain, datblygu a rheoli gwasanaeth gwybodaeth ac ymchwil byd-eang o’r radd flaenaf. Bu’n uwch-reolwr yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys yn Rheolwr Interim gan arwain prosiect mawr ar wybodaeth a chofnodion mewn Llywodraeth Leol, a Chyfarwyddwr Adnoddau Gwybodaeth mewn Llywodraeth Ganolog yng Nghyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ble y rhoddodd newidiadau ar waith yn dilyn uno’r Cyllid Gwladol a Thollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi. Bu hefyd yn gweithio yng nghwmni cyfreithwyr Clifford Chance fel Pennaeth Gwybodaeth yn eu swyddfa yn Llundain. 

Mae ei phrofiad yn cynnwys strategaeth a llunio polisïau, rheoli a datblygu gwasanaethau gwybodaeth, ac arwain rheoli newid. Mae’n weithgar ar amryw bwyllgorau ymgynghorol proffesiynol ac yn ymddiriedolwr Prifysgol Cymru yn ogystal ag Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae gan Gwenda radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Cymru, Aberystwyth ble mae hi bellach yn Gymrawd Adrannol Anrhydeddus, ac mae’n Gymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Proffesiynol (FCLIP) a’r Gymdeithas Frenhinol i Hyrwyddo'r Celfyddydau, Gweithgynhyrchu a Masnach (FRSA).