The Honourable Society of Cymmrodorion

Promoting the language, literature, arts and science of Wales

The Transactions

home > Transactions > Volume 31 - 2025 > TENSIYNAU LLUNDAIN: GORONWY OWEN A’I GYWYDD I WAHODD WILLIAM PARRY

TENSIYNAU LLUNDAIN: GORONWY OWEN A’I GYWYDD I WAHODD WILLIAM PARRY

Crynodeb: Enw a ddaeth yn amlwg ym myd barddoniaeth Gymraeg o tua 1750 ymlaen oedd Goronwy Owen, a aned ym Môn yn 1723, ac erys ei ddylanwad hyd heddiw, pe ond am y ffaith fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig cadair am gerdd hir yn y mesurau caeth a choron am un mewn mesurau rhydd. Roedd bywyd helbulus Goronwy yn llawn tensiynau a chroesebau o bob math. Dyma un a ymfalchïai yn ei alwadau ‘dwyfol’ fel bardd ac offeiriad, ond a oedd yr un pryd yn nodedig am afradlonedd ei fywyd beunyddiol cecrus. Gwelir y tensiynau barddol yn mynd ar gynnydd yn ei hanes wrth iddo awchu am ddilyn ffasiwn y dydd a llunio epig Gristnogol ‘Filtonaidd’ tra yn teimlo fod y mesurau traddodiadol Cymraeg yn anaddas ar gyfer cerdd hir o’r fath. Pan symudodd i gyffiniau Llundain yn 1755, gwelodd fod y ffasiwn lenyddol wedi newid. Llaciodd y tensiynau ac aeth ati i lunio rhai o’i gerddi gorau, megis ei gywydd i William Parry, Ysgrifennydd y Cymmrodorion, y gellid eu disgrifio yn ‘odes Horasaidd’. Ond cynyddodd y tensiynau rhyngddo a’i brif noddwyr, Morrisiaid Môn, gyda’r canlyniad iddo hwylio am Virginia yn 1757, ac yno y’i claddwyd ac nid ym ‘Môn, dirion dir’ yn ôl ei ddymuniad.

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login

Filter by Subject