The Honourable Society of Cymmrodorion

Promoting the language, literature, arts and science of Wales

The Transactions

home > Transactions > Volume 20 - 2014 > Cymru a’r Byd yn y Pedwaredd Ganrif ar Bymtheg: 6 Y Gwyddoniadur Cymreig

Cymru a’r Byd yn y Pedwaredd Ganrif ar Bymtheg: 6 Y Gwyddoniadur Cymreig

Dair wythnos yn ôl bu gwasanaeth er cof am Marian Henry Jones, gwraig yr oedd nifer ohonom yn ei hadnabod. Yn llyfrgell tŷ Marian, ar Ffordd Caradog yn Aberystwyth, arferwn achub y cy e i astudio ei chopi o’r Gwyddoniadur Cymreig. Ar ben hynny, fe gysylltais gyntaf â Marian trwy ei herthygl ‘Wales and Hungary’ (darlith a draddodwyd i’r Cymmrodorion yn y chwedegau yn wreiddiol), sydd yn berthnasol iawn i’m pwnc heno. Ynddi fe draethodd am dwf cenedlaetholdeb ar y cyfandir (yn enwedig mudiad Lajos Kossuth yn Hwngari) a’i atsain yng Nghymru wedi’r wyddyn chwyldroadol 1848.1 Dyna fan cychwyn addas – fel y gwelwn ni, gobeithio. Ond i ddechrau, gadewch imi gy wyno rhai manylion.

Ymddangosodd Y Gwyddoniadur Cymreig neu Encyclopaedia Cambrensis (mae’r tudalen deitl yn defnyddio’r ddau fersiwn fel ei gilydd) mewn deg cyfrol yn y blynyddoedd 1854–79. Dyma’r fenter gyhoeddi fwyaf erioed yn y Gymraeg. Fe gostiodd o leiaf ugain mil o bunnoedd, swm anhygoel yn y Gymru oedd ohoni.2 Cynhwysai dros saith mil a hanner o dudalennau, wedi eu printio yn dynn ac mewn colofnau dwbl, bron ddeng mil o erthyglau yn y diwedd, gwaith dros dau gant o ‘brif ysgrifenwyr’, fel y’u gelwid.3

£3.00

Purchase and download

£3.00

Add to cart

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login