The Honourable Society of Cymmrodorion

Promoting the language, literature, arts and science of Wales

The Transactions

home > Transactions > Volume 19 - 2013 > ‘Myned Allan i Fanfrig Gwreiddiau’: Waldo Williams a The Penguin New Writing

‘Myned Allan i Fanfrig Gwreiddiau’: Waldo Williams a The Penguin New Writing

Ffrwyth y pro ad ysgytwol o weld, yn Amgueddfa Avebury yn y 1940au, ysgerbwd merch ddeuddeg oed (fel y tybid ar y pryd) a ddarganfuwyd ar sa e Neolithig Windmill Hill gerllaw yw cerdd bwerus Waldo Williams, ‘Geneth Ifanc’.1 Fel y’n hatgoffwyd gan R. Geraint Gruffydd mewn ysgrif ar y gerdd, y mae hi hefyd yn fyfyrdod ar ddwy golled deuluol drasig: marwolaeth geneth ifanc arall, sef chwaer y bardd, Morvydd, yn 1915, a hithau’n nesu at ei thair ar ddeg, a marwolaeth Linda Llewellyn, gwraig Waldo, ar 1 Mehe n 1943, ychydig dros ddwy ynedd wedi iddynt briodi.2 Wrth drafod pennill olaf ‘Geneth Ifanc’, tyn Gruffydd sylw at yr ‘eco gweddol eglur’ a glyw yno ‘o gân serch gan y bardd o Sais, A. S. J. Tessimond’.3 Y tu ôl i linellau enwog Waldo – ‘Dyfnach yno oedd yr wybren eang[,] | Glasach ei glas oherwydd hon. | Cadarnach y tŷ anweledig a diamser | Erddi hi ar y copâu hyn’4 – fe saif, fe ddadleua Gruffydd, linellau agoriadol pennill olaf cerdd A. S. J. Tessimond, ‘First Meeting: To Diane’:

£3.00

Purchase and download

£3.00

Add to cart

or to access all content on this site, join today

For £35 a year you can access all lectures and articles on this site, attend lectures and receive our yearly Transactions

join today

If you are an existing member, you can access this lecture by logging in

login