Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

CYMYNRODDION

cartref > Y Gymdeithas > CYMYNRODDION

Mae Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn dibynnu ar ymgysylltiad gweithredol ei haelodau ynghyd â chefnogwyr eraill ac mae hefyd yn croesawu pob rhodd mewn ewyllysiau er mwyn cefnogi cyflawniad ei dibenion elusennol i’r dyfodol.

Ers llawer o flynyddoedd, trwy ei gweithgareddau, mae’r Gymdeithas wedi hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru.

Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â chyfreithiwr i sicrhau bod eich ewyllys yn ddilys yn gyfreithiol, yn adlewyrchu’ch bwriadau ac yn gyfoes. Pe baech yn dymuno gadael rhodd i’r Gymdeithas rydym yn awgrymu y dylech ddefnyddio’r geiriad hwn yn eich ewyllys er mwyn sicrhau ein bod yn derbyn eich rhodd:

“Rwyf yn ewyllysio gadael rhodd i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 157-163 Grays Inn Rd, Llundain WC1X 8UE, rhif elusen gofrestredig 313141, [y swm o / % o’m hystâd weddilliol] i’w ddefnyddio gan y Gymdeithas yn ôl ei dymuniad. Rwyf yn dymuno ymhellach y bydd derbynneb y Trysorydd neu unrhyw swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad llawn a digonol i’m hysgutorion.”

Rydym yn eich annog i gyflwyno rhoddion a ellir eu defnyddio ar gyfer dibenion cyffredinol y Gymdeithas yn hytrach nag at ddiben cyfyngedig.

Os ydych yn ystyried cyflwyno rhodd i’r Gymdeithas yn eich ewyllys, ac yr hoffech drafod hyn ymhellach, byddwch cystal â chysylltu â’r Ysgrifennydd ar secretary@cymmrodorion.org.