Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

CENHADAETH

cartref > Y Gymdeithas > CENHADAETH

Mae Cymdeithas y Cymmrodorion yn bodoli er mwyn hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, hanes, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru. Mae’n gwneud cyfraniad pwysig i drafodaethau academaidd, diwylliannol a gwleidyddol ac yn gweithio i sicrhau cydnabyddiaeth o gyfraniad y genedl yn y gymdeithas gyfoes. Mae’n trefnu cyfres o ddarlithoedd a chyfarfodydd rheolaidd yn Llundain a Chymru, yn annog a chefnogi ysgoloriaeth ac ymchwil , yn cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, y Trafodion, ac yn dyfarnu medal i gydnabod cyfraniad llawer o unigolion sydd wedi rhoi gwasanaeth nodedig i Gymru, ei chymdeithas a’i sefydliadau mewn amryw faes. Mae’r Gymdeithas yn denu ystod amrywiol o aelodau unigol a chorfforaethol ar draws y byd. Mae’r aelodaeth bresennol yn cynnwys dynion a menywod o bob cefndir sydd yn weithgar ac yn teimlo’n angerddol am orffennol y genedl ynghyd â’i datblygiad presennol ac yn y dyfodol ac sy’n mwynhau ymgysylltu ag eraill sydd â diddordebau tebyg yn y Gymru sydd ohoni a materion Cymreig.