O.M. Edwards a Chymreictod Ysgolion Cymru
Event Navigation
Ymgais sydd yn y ddarlith hon i ddeall cyd-destun Cymreictod ysgolion Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn y daeth O. M. Edwards yn brif arolygydd addysg yn 1907 ac i bwyso a mesur ei ddylanwad wrth iddo geisio Cymreigio’r gyfundrefn addysg. Cyflwynodd Edwards, ynghyd ag Alfred T. Davies, ysgrifennydd parhaol yr Adran Gymreig newydd-anedig, feddylfryd newydd i’r Bwrdd Addysg ac i ysgolion Cymru rhwng 1907 a 1920. Mae’r erthygl yn egluro’r heriau a wynebodd Edwards a’r ffordd y trawsnewidiodd ei gorff o arolygwyr trwy benodi arolygwyr o Gymru a fedrai’r Gymraeg a gosod amcanion newydd i’w gwaith hwy ac i waith ysgolion. Rhoddodd flaenoriaeth i’r Gymraeg ac i Gymreictod y cwrs addysg a chael gwell llwyddiant mewn ysgolion elfennol nag mewn ysgolion canolradd. Eglurir y rhwystrau a’r grymoedd y ceisiodd eu goresgyn dros gyfnod ei yrfa a rhoddir gwerthusiad o natur y llwyddiant a gafodd.
Siaradwr: Ann Keane, Cyn Brif Arolygydd y Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Sioned Bowen, Aelod y Cyngor yn y Gadair