Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Sgyrsiau & Erthyglau

cartref > SGYRSIAU > Erthyglau > Huw T Edwards a Datganoli 1945–1964

Huw T Edwards a Datganoli 1945–1964

O dderbyn gwireb Ron Davies mai proses nid digwyddiad yw datganoli (‘devolution is a process, not an event’), yna adeg o arbrofi a thafoli opsiynau oedd y cyfnod o ddiwedd yr Ail Ryfel Byd hyd at sefydlu’r Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd, gydag Ysgrifennydd Gwladol yn ben arni, yn 1964. Nid oedd dim yn anochel yn y broses o ddatganoli yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan gynnwys y cyfnod dan sylw. Dywed un hanesydd bod datganoli wedi marw erbyn 1945,1 ond wedi hynny atgyfodwyd y cysyniad, ac yn ystod y blynyddoedd dilynol bu unigolion a charfanau yng Nghymru yn troedio llwybrau a fyddai, maes o law, yn arwain at fesurau pellgyrhaeddol o ddatganoli. Ar yr un pryd, ni ddylid anwybyddu’r gwrthwynebiad chwyrn a gafwyd i’r broses yng Nghymru ei hun a thu hwnt.

O safbwynt y broses, mae’r eirfa a’r derminoleg a ddefnyddiwyd wrth drafod datganoli yn ddadlennol a thra diddorol. I rai, roedd angen dangos cydnabyddiaeth (‘recognition’) o fodolaeth Cymru fel gwlad neu genedl; i eraill, roedd datganoli’n rhan o gryfhau peirianwaith llywodraethu (‘machinery of government’ oedd y term a ddefnyddiwyd) heb fod hynny’n ymwneud o gwbl â chenedlaetholdeb fel y cyfryw; i eraill eto, roedd cydraddoldeb â’r Alban (‘parity with Scotland’) yn nod ynddo’i hun. Defnyddiwyd yn ogystal y term ‘decentralization’, sydd yn gyfystyr yn y Gymraeg â ‘devolution’, ond fel arfer cyfeiriai hynny at drosglwyddo grym i gynghorau sir a bwrdeistref. Yn wir, gwnaed awgrymiadau cyson ynghylch yr angen i ad-drefnu llywodraeth leol.