Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

newyddion

cartref > Newyddion > Hoffech chi ymuno â’r Cyngor?

Hoffech chi ymuno â’r Cyngor?

Friday 28 August, 2020

Mae pennod newydd yn hanes Y Cymmrodorion wedi agor ac rydym yn edrych am aelodau i’r Cyngor.

Pe baech yn gallu ein tywys i gryfhau ein presenoldeb ar-lein, neu os oes gennych brofiad o ddarlithoedd a digwyddiadau, cysylltwch os gwelwch yn dda.

Croesawir unrhyw brofiad arall hefyd gan gynnwys, wrth gwrs, gwerthfawrogiad o’r Gymru sydd ohoni a’r Gymru a fu.

Hefyd rydym yn chwilio am Drysorydd newydd sy’n rôl hanfodol.

Byddwch cystal â chysylltu â Sian Reid ar secretary@cymmrodorion.org i ddarganfod mwy.