Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Sgyrsiau & Erthyglau

cartref > SGYRSIAU > Adar Cymraeg mewn Coedwig Americanaidd

Adar Cymraeg mewn Coedwig Americanaidd

Mae Llenyddiaeth Gymraeg America yn faes academaidd newydd ac felly nid ar chwarae bach y mentrir diffinio’r agweddau creiddiol arno ac ateb y cwestiynau sy’n ganolog iddo. Rwyf wedi bod yn ymgodymu ag un o’r cwestiynau hyn ers nifer o flynyddoedd bellach, sef: i ba raddau y gellid sôn am lenyddiaeth Gymraeg America fel maes neu bwnc ar wahân i lenyddiaeth Gymraeg Cymru? Credaf fod mwy nag un ateb a bod yr atebion hynny i’w canfod yn y dystiolaeth gynradd ei hun. Mae’n bosibl y dylid aralleirio’r cwestiwn hwn a gofyn: i ba raddau yr oedd beirdd, llenorion, beirniaid, golygyddion a darllenwyr Cymraeg America yn credu’u bod yn perthyn i ddiwylliant llenyddol Cymraeg Americanaidd? Rwyf wedi awgrymu bod y dystiolaeth yn caniatáu i ni gasglu bod o leiaf rai Cymry Americanaidd yn synio am lenyddiaeth Gymraeg yr Unol Daleithiau yn y modd hwnnw cyn diwedd y 1850au.1

Bid a fo am arwyddocâd cymdeithasau Cymraeg, Eisteddfodau a gweithgareddau eraill sy’n tystio i dwf diwylliant llenyddol Cymraeg America, mae’n rhaid mai datblygiad gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau yw’r ffactor mwyaf allweddol. Os oedd y wasg gyfnodol yn ganolog i ddiwylliant llenyddol Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd hyd yn oed yn bwysicach yn y Gymru Americanaidd newydd gyda chymunedau Cymraeg wedi’u gwasgaru ar draws y cyfandir mawr hwnnw.