Dylid cyflwyno erthyglau ar ffurf copi caled unigol neu ffeil electronig (dogfen Word) wedi’i chyflwyno drwy’r ffurflen isod neu drwy e-bost i’r Golygydd. Ni ddylai erthyglau fod yn rhagor na 7000 o eiriau, yn cynnwys nodiadau. Mae’r Trafodion yn defnyddio canllaw arddull yr MHRA (Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern). Mae copïau o’r canllaw arddull ar gael oddi wrth yr MHRA a cheir crynodeb o’r canllaw ar ei gwefan (www.mhra.org.uk).
Caiff cyflwyniadau eu hadolygu yn anhysbys gan gymheiriaid, ac fel arfer cânt eu darllen gan un aelod o’r Bwrdd Golygyddol ynghyd â darllenydd arall a enwebir gan y Golygydd. Dychwelir sylwadau’r darllenwyr i’r cyfranwyr.


