Mae Medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn cynnig cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfraniad llawer o unigolion a roddodd wasanaeth nodedig i Gymru mewn llawer maes.
Dathlodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei phen-blwydd yn ddau gant a hanner oed yn 2001, gan iddi gael ei sefydlu'n swyddogol yn Llundain yn 1751. Pwyswch yma i ddod o hyd i ragor o hanes y Gymdeithas...
Croeso i’n gwefan. Yn unol ag amcanion ein sefydlwyr, ceisia Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hyrwyddo a datblygu Iaith, Llenyddiaeth, Celfyddydau a Gwyddorau Cymru.
Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol. Heddiw, mae’r Gymdeithas yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i drafodaethau gwleidyddol a diwylliannol yng Nghymru. Rydym hefyd am weld cydnabyddiaeth deilwng i’r iaith Gymraeg yn y Gymru gyfoes a thrwy ddyfarnu Medal, rhown gydnabyddiaeth ffurfiol i’r rhai a roddodd wasanaeth nodedig i Gymru yn eu meysydd arbennig.