Huw T Edwards a Datganoli 1945–1964

Shopping cart is empty.
 

Huw T Edwards a Datganoli 1945–1964

Huw T Edwards a Datganoli 1945–1964
Un a oedd yn flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Cymru a chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad y broses o ddatganoli oedd Huw T. Edwards. Pan oedd yn anterth ei yrfa yn ystod yr 1950au, gelwid Huw T. Edwards yn ‘Brif Weinidog Answyddogol Cymru’ ac mae hynt a helynt ei yrfa yn y cyfnod hwn yn taflu goleuni ar y prosesau oedd ar waith ar y pryd, ac yn benodol ar agweddau llywodraethau Llafur a Cheidwadol y cyfnod a’r gweision sifil a’u cynghorai.

Pan ofynnodd y Prif Weinidog, Clement Attlee, yn 1948 i un o’i weinidogion mwyaf ffyddlon, Jim Griffiths, pwy ddylai fod yn gadeirydd cyntaf Cyngor Cymru a Mynwy, ateb y Cymro, heb betruso, oedd, ‘Huw T. Edwards – he is the truly representative Welshman.’ Mae’n siŵr nad oes y fath beth yn bod â Chymro identikit gwir gynrychioliadol – ddoe na heddiw – ond roedd llawer o ffactorau yng nghefndir a phersonoliaeth Huw T. Edwards i gyfiawnhau sylw Jim Griffiths.

About the Author
Gwyn Jenkins was formerly Keeper of Manuscripts and Records and Director of Collection Services at the National Library of Wales, where he was instrumental in establishing the Welsh Political Archive and Archives Council Wales. His biography of Huw T. Edwards, Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T. Edwards, was published in 2007.



  • £2.50
  • In stock: N/A