Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru

Michael Gibbon QC

cartref > Y Gymdeithas > Pwy Yw Pwy > Aelodau Cyngor > Michael Gibbon QC

Mae Michael Gibbon QC yn fargyfreithiwr sy’n gweithio mewn siambrau yn Lincoln’s Inn ac yn byw ynghanol Llundain. Mae’r rhan fwyaf o’i waith wrth y Bar wedi ymwneud â chynrychioli adrannau’r Llywodraeth. Roedd ei rieni o Forgannwg ac mae ganddo gysylltiadau teuluol â gorllewin Cymru a’r Canolbarth hefyd. Astudiodd Hanes Modern ar gyfer ei radd gyntaf yng ngholeg Magdalen, Rhydychen ac yna enillodd radd MPhil mewn Perthnasau Rhyngwladol yn Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Roedd yn ysgolor corawl yn y ddau goleg. Yn dilyn cyfnod byr ym myd cyllid, hyfforddodd fel bargyfreithiwr. Dechreuodd ymarfer ym 1995 gan gymryd sidan yn 2011. Yn ei amser hamdden mae ganddo ddiddordeb yn hanes canol oesol hwyr a chyfnod hanes modern cynnar Canolbarth Cymru, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar y pwnc. Mae’n lywodraethwr ysgol ac yn gyn Lywydd Cymdeithas Sir Drefaldwyn.

Mae ganddo ef a’i wraig, Amanda, bedwar o blant. Mae teulu Amanda yn ffermio i’r de o Fachynlleth.

Photo ©Colin Thomas