Mae Mathew Kidwell yn gyfreithiwr yn arbenigo ym meysydd ynni a datblygu seilwaith cyhoeddus. Yn ddiweddar mae wedi ei dderbyn fel partner yn Blake Morgan sydd, fel Morgan Bruce & Nicholas (a’i arddulliau olynol), wedi bod yn un o gwmnïau mwyaf blaenllaw Cymru ers blynyddoedd. Cychwynnodd Mathew ei yrfa broffesiynol gyda’r cwmni yma ym 1989 ac wedyn bu’n gweithio ym myd y gyfraith yng Nghymru cyn symud i weithio i Lundain a thramor. Symudodd yn ôl i Lundain yn 2010 yn dilyn swyddi preswyl yn y Dwyrain Canol ac ym Mrasil. Erbyn hyn mae’n rhannu ei amser rhwng swyddfeydd Blake Morgan yng Nghaerdydd a Llundain.
Ymunodd Mathew â’r Cymmrodorion yn 2011, a’i brif ddiddordeb yw hanes Cymru. Mae hyn yn deillio o’i wreiddiau yn Nghwm Tawe, Sir Gaerfyrddin a Gogledd Sir Benfro. Cynyddodd y diddordeb hwn ym mhrifysgol St. Andrews (Yr Alban), ble graddiodd ag MA Dosbarth Cyntaf mewn Hanes y Canol Oesoedd ym 1987. Fel rhan o’i radd gwnaeth astudiaeth arbennig o “Marches and Marcher Lords”, ac ysgrifennodd ei draethawd hir meistr yn cymharu profiadau gororau Cymru, Yr Alban a Ffrainc-Normandi. Yn St. Andrews, cafodd y fraint o glywed cyfres o ddarlithoedd gan y diweddar Athro Syr Rees Davies a oedd yn ymwelydd rheolaidd. Enynnodd ei astudiaethau yn y brifysgol ddiddordeb dwfn a pharhaus mewn hanes Cymru, ac arweiniodd hyn at gymryd cwrs dwys dysgu Cymraeg yn Llambed.
Mae ei ddiddordeb mewn bywyd diwylliannol a llenyddol a threftadaeth Cymru’n ymestyn ymhell tu hwnt i hanes ac yn cynnwys pynciau sy’n berthynol i lenyddiaeth, darluniau a chelf gweledol, y cyfryngau, ffilmiau a darlledu, y theatr, cerddoriaeth, traddodiadau cymdeithasol a gwerin, enwau lleoedd, cyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol, materion crefyddol ac eglwysig a’r Cymry yn Llundain. Mae’n aelod o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
Mae Mathew yn briod â Tanya, ac mae ganddynt ferch ifanc (Arianwen), yn ogystal â dau o blant hŷn.