{"id":146,"date":"2014-08-11T16:06:03","date_gmt":"2014-08-11T15:06:03","guid":{"rendered":"http:\/\/cymmrodorion.org\/?page_id=146"},"modified":"2015-07-26T18:29:05","modified_gmt":"2015-07-26T17:29:05","slug":"ein-hanes","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/","title":{"rendered":"Ein Hanes"},"content":{"rendered":"<p><strong>Hanes Byr y Cymmrodorion\u00a0Gan y Llywydd, Athro Emeritws Prys Morgan<\/strong><\/p>\n<p>Dathlodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei chwarter-mileniwm yn 2001, am ei bod wedi ei sefydlu yn swyddogol yn Llundain yn 1751. Ond mae\u2019n bwysig cofio ei bod wedi tyfu o gymdeithas gynharach, Anrhydeddus a Theyrngar Gymdeithas yr Hen Frytaniaid a sefydlwyd yn 1715. Cymdeithas oedd hon o Gymry Llundain a oedd yn trefnu\u2019r cinio blynyddol ar Wyl Ddewi yn Llundain, er mwyn helpu teuluoedd Cymry yn Llundain oedd mewn tlodi, yn arbennig trwy gynnal ysgol elusennol i\u2019w plant, gyntaf yn Clerkenwell, wedyn yn Gray\u2019s Inn Lane. Symudodd yr ysgol ( a droes yn y pen-draw yn ysgol i ferched) i Ashford, swydd Middlesex yn 1857, gan gau ei drysau am y tro olaf yn 2009. Ystyr \u2018 teyrngar\u2019 yn y teitl oedd pwysleisio i\u2019r nrenin Hanoferaidd newydd nad oedd y Cymry mor annheyrngar a\u2019r Albanwyr a wrthryfelodd yn 1715, ac ystyr yr \u2018Hen Frytaniaid\u2019 oedd bod Prydeinig wedi arfer golygu \u2018 Cymreig\u2019 hyd at 1707 ond ei fod fwyfwy yn cael ei ddefnyddio nawr i son am y Deyrnas Gyfunol.<\/p>\n<p>Roedd y Cymry\u2019n parhau i ddylifo mewn i Lundain trwy\u2019r ddeunawfed ganrif, a Chymru\u2019n wlad heb brifddinas, yn wir, heb fawr o drefi o bwys, ac erbyn 1750 teimlai llawer bod angen canolbwynt i gyfarfodydd yn amlach na chinio Gwyl Ddewi, ac angen am le i drafod hanes a diwylliant Cymru. Y farn gyffredin yw mai creadigaeth Morysiaid Mon yw Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1751, y tri brawd athrylithgar, William a ofalai am dolldy Caergybi, Richard a oedd yn Glerc Swyddfa\u2019r Morlys yn Whitehall, a fu byw ei oes gyfan yn Llundain gan farw yma yn 1779, a Lewis, a dreuliodd lawer o\u2019i fywyd yn Sir Aberteifi yn gofalu am fwyngloddiau\u2019r Goron yno, llenor ac arweinydd y dadeni diwylliannol yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Pennwyd rheolau\u2019r gymdeithas yn 1753, a\u2019u cyhoeddi yn 1755, a\u2019r cyfieithiad Cymraeg o waith y bardd enwog Goronwy Owen.<\/p>\n<p>Roedd gan y Gymdeithas o leiaf dri bwriad, sef cynnal ciniawau lle y gellid casglu arian i helpu\u2019r ysgol rad neu unrhyw Gymry Llundeinig mewn adfyd, yn ail, astudio llen a hanes Cymru, a chynnal trafodaethau ar y pynciau hyn a chyhoeddi llyfrau ar Gymru, ac yn drydydd, rhoi arweiniad i\u2019r Cymry gartref, cenedl heb unrhyw sefydliadau. Lewis Morris a ddyfeisiodd enw\u2019r Gymdeithas, a daw Cymmrodorion o \u2018 cyn- frodorion\u2019 sef trigolion cyntaf ynysoedd Prydain, i nodi pwysigrwydd y Cymry fel y genedl a oedd yn cysylltu Prydain Fawr fodern a\u2019r Brythoniaid a oedd wedi byw yma am filoedd y flynyddoedd cyn dyfodiad y Sacsoniaid, gan awgrymu y dylid rhoi parch i\u2019r Cymry , fel yr unig ddolen gyswllt a hen hen hanes Prydain.<\/p>\n<p>Richard Morris oedd llywydd y Gymdeithas hyd ei farw yn 1779, a\u2019i olynu gan Syr Watkin Lewes, AS gweithgar a ddaeth yn Arglwydd Faer Llundain. Ond roedd Pen-llwydd yn ogystal, sef William Vaughan o Gorsygedol, AS Meirionnydd a olynwyd yn 1775 gan Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay. Aeth y Gymdeithas ymlaen a\u2019i chyfarfodydd mynych gan ddenu llawer o aelodau o fri, ond unwaith y bu farw\u2019r gen hedlaeth gyntaf o aelodau, diffoddwyd y fflam, a daeth y gymdeithas i ben yn 1787.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyneddigion gan aelodau o\u2019r Cymmrodorion yn 1770, a oedd yn teimlo bod yr aelodau\u2019n rhy bendefigaidd, bod y cyfarfodydd heb ddigon o hwyl a Chymreigrwydd, ac yn bendant heb ddigon o ganu penillion a\u2019r delyn. Calon y gymdeithas oedd Owen Jones \u2018 Owain Myfyr\u2019 masnachwr crwyn hynod lwyddiannus. Erbyn y 1780 daeth y Gwyneddigion yn fforwm trafodaethau gwleidyddol, ond bu cryn lwyddiant hefyd ar raglen o gyhoeddi clasuron Cymraeg megis gwaith Dafydd ap Gwilym yn 1789 a thair cyfrol o drysorau hen lenyddiaeth Gymnraeg y Myvyrian Archaiology o 1801 i 1807, a llwyddiant i\u2019w rhaglen o noddi eisteddfodau yng Nghymru yn 1789. Rhwng 1805 a 1807 cyhoeddwyd cylchgrawn Y Greal ganddynt.<\/p>\n<p>Tyfodd amryw o gymdeithasau o gyff y Gwyneddigion, y Caradogion rhwng 1790 a 1798, lle y rhoddwyd sylw i\u2019r Saesneg ac i drafodaethau gwleidyddol, o 1794 y Cymreigyddion, a sefydlwyd gan radicaliaid megis Jac Glan y Gors, a apeliai yn fawr at y werin yn Llundain, a\u2019r holl dadleuon yn y Gymreaeg. Roeddd yn anodd cynnal cyfarfodydd o unrhyw fath yn ystod y rhyfeloedd hir a blin, ond wedi i heddwch ddyfod yn 1815 daeth nifer o gymdeithasau i fod megis yr Ofyddion, y Canorion, y Gomeriaid, Cymdeithas Dewi Sant, ac yn olaf, yr Ymofynwyr Cymreigyddawl \u2013 yr olaf yn adwaith yn erbyn clybiau ysgafnfryd y ddeunawfed ganrif, ac yn torri allan unrhyw aelodau annuwiol, ac yn ymgadw rhag mynychu tafarnau. Yn fwy pwysig roedd y ffaith fod y Cymry gartref yn dechrfau sefydlu eu cymdeithasau eu hunain gan ddynwared y Cymmrodorion ac yn gofyn i Gymry Llundain feddwl am ailsefydlu\u2019r hen Gymdeithas.<\/p>\n<p>Un o blant y Gwyneddigion yn y 1790au oedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a ddyfeisiwyd gan Edward Williams \u2018 Iolo Morganwg\u2019 tua 1790 ac a gynhaliodd eu cyfarfod cyntaf yn 1792 ar ben Primrose Hill. Wedi dychwelyd i Gymru cynhaliodd Iolo ragor o Orseddau ar hyd a lled Cymru, ac yna, wedi bwlch yn ystod y rhyfel, daeth Gorseddau eto. Bu bwlch hefyd yn y broses o gynnal eistreddfodau, ond daeth llenorion a gwlatgarwyr at ei gilydd yn ystod 1818-9 i sefydlu \u2018 Cymdeithasau Cymreigyddawl\u2019. Yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819 cysylltwyd Gorsedd Iolo am y tro cyntaf gyda\u2019r Eisteddfod. Ym mis Mehefin 1819 yn nhy Arglwydd Dinefwr yn Llundain cynhaliwyd cyfarfod i ailsefydlu\u2019r Cymmrodorion. Yn 1820 daeth W.J. Rees, Ficer Casgob, i Lundain am chwe wythnos i weithio ar gylchoedd Cymry Lllundain a\u2019u tynnu at ei gilydd a\u2019u cael i ailsefydlu\u2019r Cymmrodorion. Parhaodd yr Ail Gymmrodorion o 1820 hyd 1843, gan ddenu nifer o aelodau diddorol megis Walter Scott, Southey a Thomas Love Peacock yn aelodau, a chan gyhoeddi o 1822 ymlaen y Trafodion, a chan ddechraiu\u2019r ddefod o roi medalau \u2013 cynlluniwyd y gwreiddiol gan neb llai na Flaxman \u2013 a hwy a ddechreuodd ddefnyddio\u2019r arwyddair sydd gennym hyd yn oed heddiw sef \u2018Cared Doeth yr Encilion\u2019, &#8211; hynny yw, \u2018 Cared y doeth hen weddilllion hanes\u2019, a oedd wedi ymddangos ar ddalen deitl y Myvyrian Archaiology. Cynigiwyd help i\u2019r eisteddfodau, ond heb roi gwir arweiniad ac undod i\u2019r mudiad. Un o fwriadau\u2019r Cymmrodorion yn y ddeunawfed ganrif oedd agor eglwys Gymraeg yn Llundain, a llwyddodd yr Ail Gymmrodorion i wneud hyn gan brynu eglwys St Etheldreda, Ely Place, yn 1843 \u2013 dyma ragflaenydd St Benet\u2019s.<\/p>\n<p>Erbyn y 1840au roedd bywyd Cymraeg Llundain wedi newid yn gyfangwbl: hyd yn oed cyn i\u2019r Cymmrodorion brynu eglwys Gymraeg roedd capeli Cymraeg wdi codi , ac roedd yr hen gyfarfodydd hwyliog mewn tafarnau wedi mynd allan o ffasiwn. Daeth amser caled ar y Gwyneddigion yn y 1830au, daeth yr Ail Gymmrodorion i ben yn 1843, ac aeth y Cymreigyddion i lawr erbyn y 1850au. Dechreuwyd y Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig yn 1846 \u2013 a hynny ar dir Cymru \u2013mewn adwaith i golli\u2019r Cymmrodorion. Yn un o gyfarfodydd y Cymreigyddion arweiniodd Syr Hugh Owen y camau cyntaf i sefydlu cymdeithas er taenu gwybodaeth ddefnyddiol trwy Gymru- symudiad nodweddiadol o oes pan oedd y Cymry wrthi\u2019n codi capeli ac ysgolion, a datblygu busnes a diwydiant. Roedd canol y 19fed ganrif yn gyfnod o ladd ar y Cymry am roi gormod o sylw i\u2019w gorffennol pell, eu hiaith a\u2019u traddodiadau hynafol, yn sgil beirniadaeth lem comisiynwyr y Llywodraeth yn y Llyfrau Gleision ar addysg Cymru yn 1847 \u2013 \u2018 Brad y Llyfrau Gleision\u2019. Gwir fod gan Gymru gyfres o eisteddfodau cenedlaethol rhwng 1858 a 1868, ond dyma Hugh Owen eto yn sefydlu adran \u2018 Social Science\u2019ynddynt er mwyn trafod pynciau llosg y dydd yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cafwyd bwlch o ugain mlynedd rhwng colli\u2019r Ail Gymmrodorion a sefydlu\u2019r drydedd yn 1873. Ceisiodd John Williams \u2018 Ab Ithel\u2019 lenwi\u2019r bwlch trwy sefydlu\u2019r Cambrian Institution yn Llundain yn 1855. Ond erbyn 1870 bu teimlad go gyffredinol trwy Gymru bod angen cymdeithas yn Llundain i roi arweiniad i\u2019r hen wlad. Ar ol etholiad enwog 1868 roedd yr aelodau seneddol yn griw llawer mwy Cymreigaidd na chynt, a dyma Hugh Owen a\u2019i gydweithwyr yn llwyddo i agor Coleg Prifysgol i Gymru yn Aberystwyth yn 1872. Yn eisteddfod Porthmadog 1872 bu nifer yn gofyn am ailsefydlu cymdeithas debyg i\u2019r Cymmrodorion, a\u2019r un math o gais yn Eisteddfod yr Wyddgrug yn 1873, a\u2019r son oedd y gallai\u2019r fath gymdeithas ailgyfundrefnu\u2019r Brifwyl. Trwy lwc roedd pwyllgor wedi ei sefydlu yn Llundain i godi arian i noddi Undeb Corawl y De ( Cor Caradog) i gystadlu yng ngwyl y Palas Grisial, a wedi\u2019r fuddugoliaeth roedd gan y pwyllgor gryn arian heb ei wario. Darbwyllodd Hugh Owen a\u2019i gyfaill John Grifffith \u2018 Y Gohebydd\u2019 y pwyllgor i gynnig yr arian sbar i godi Cymmrodorion newydd, a dyma\u2019r syniad a gyflwynodd Y Gohebydd i\u2019r Cymry yn yr Wyddgrug yn 1873. Cafodd y syniad groeso brwd ac felly erbyn mis Tachwedd 1873 ailsefydlwyd y Cymmrodorion yn Llundain a dyma\u2019r gymdeithas sydd yn bodoli heddiw.<\/p>\n<p>Syr Hugh Owen a etholwyd yn gadeirydd y cyngor, a Syr Watkin Williams-Wynn yn llywydd, a\u2019r trysorydd oedd J.H. Puleston, aelod seneddol a oedd yn gyfrifol wedyn am sefydlu\u2019r gwasanaeth Gwyl Ddewi yn eglwys Sant Paul. I bob pwrpas dyma gyfnod o osod y patrwm presennol sydd i\u2019r Gymdeithas, sef nifer o gyfarfodydd yn Llundain a chyfarfodydd yr Adran Gymmrodorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cysylltodd y Gymdeithas ei hun a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fel arfer byddai\u2019r cyfarfodydd ar faes yr Eisteddfod yn ymwneud a phroblemau cyfoes Cymru.. Yn aml bu\u2019r math yma o gyfarfodydd yn hwb i hyrwyddo sefydliadau\u2019r genedl, y Llyfrgell a\u2019r Amgueddfa Genedlaethol a sefydlwyd yn 1907, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906, Cymdeithas Lyfryddol Cymru yn 1907, a Chyngor Diogelu Cymru Wledig a gynigiwyd gyntaf yn 1923 ond a sefydlwyd yn 1927.<\/p>\n<p>Dyma gyfnod sefydlu patrwm o gyhoeddi llyfrau yn ogystal: cyhoeddwyd cyfres Y Cymmrodor o 1875 ymlaen, ac erbyn 1893 daeth y Trafodion i fod, sef fersiwn brintiedig o anerchiadau a roddasid i\u2019r Gymdeithas , prif fforwm trafod hanes Cymru hyd at sefydlu\u2019r Cylchgrawn Hanes Cymru yn 1960. Yn yr 1890au hefyd dechreuodd y Cymmrodorion Record Series gyhoedddi nifer o ffynonellau hanesyddol gwerthfawr Cymru. O 1887 hyd ei farw yn 1934 ysgrifennydd y Gymdeithas oedd Syr Vincent Evans, ac y mae\u2019n dyst i\u2019w nerthoedd cawraidd ei fod nid yn unig yn trefnu Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ond holl gyhoeddiadau\u2019r Gymdeithas yr un pryd, a hynny am hanner canrif.<\/p>\n<p>Un o aelodau\u2019r Cyngor ar y dechrau oedd y cerflunydd Josxeph Edwards, ac ef a gynlluniodd fedal y Cymmrodorion. Rhoddwyd y cyntaf o\u2019r medalau hyn yn 1883 i William Rees \u2018 Gwilym Hiraethog\u2019. Yr oedd Hiraethog mewn gwirionedd wedi ennill medal yr hen Gymmrodorion yn 1828 am draethawd ar Gantre\u2019r Gwaelod. Ond y drefn yn awr oedd rhoi medal am wasanaeth oes i Gymru a dyma\u2019r patrwm sydd wedi ei ddilyn hyd heddiw. Yn 1951 ar ddaucanmlwyddiant y Gymdeithas rhoddwyd medal i\u2019r Dywysoges Elisabeth , ac mewn seremoni arall fedal i Saunders Lewis. Dim ond bob hyn a hyn y dyfernir y medalau: mewn seremoni ym Mhalas Lambeth rhoddwyd medal yn 2008 i\u2019r Archesgob Rowan Williams, ac yn 2009 mewn seremoni yn Nhy\u2019r Arglwyddi rhoddwyd medal i\u2019r hanesydd Arglwydd Morgan o Aberdyfi.<\/p>\n<p>Wedi marw Syr Vincent Evans yn 1934 llywiwyd y Gymdeithas am ugain mlynedd gan yr ysgrifennydd Syr John Cecil-Williams, a ymdaflodd i\u2019r gorchwyl o godi\u2019r aelodaeth, a oedd yn sefyll tua 300 yn unig yn y 1930au, i dros 2200 erbyn 1951, gan ddarbwyllo pawb o bwys yn Llundain a Chymru ac yn wir dros y mor yn ogystal i ddod yn aelodau. Cafwyd nifer o gyfarfodydd yng Nghymru yn 1951, ac un cyfarfod neilltuol i osod coflech i Ddafydd ap Gwilym ar furiau Abaty Ystrad Fflur., y cyfan yn codi amlygrwydd y Gymdeithas yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dilynwyd traddodiad y Gymdeithas o amser Hugh Owen ymlaen o fod yn grwp gwasgu dros Gymru, ambell waith yn gweithio yn anffurfiol, dro arall yn anfon dirprwyaeth neu femorandum at y llywodraeth . Dyna ddigwyddodd er enghraifft yn 1952 wrth fynd ar ofyn y llywodraeth am well sylw i Gymru ar stampiau post, arian ac yn wir i gael baner swyddogol i Gymru. Anfonodd y Gymdeithas femoranda at bwyllgorau megis Pwyllgor Pilkington ar ddyfodol darlledu ym Mhrydain, ac at Bwyllgor Hughes-Parry ar statws y Gymraeg, ac yn wir penodwyd Ben Jones ( ysgrifennydd y Gymdeithas) yn gadeirydd Cyngor yr Iaith Gymraeg gan y llywodraeth. Yn 1984 daeth llwyddiant i ymdrech y Gymdeithas i wasgu ar y llywodraeth i beidio symud y Fridfa Blanhigion o blas Gogerddan i rywle yn nyffryn Tafwys, ac yn 2000 anfonodd y Gymdeithas femorandwm pwysig at Bwyllgor Materion Cymreig Ty\u2019r Cyffredin ar wella \u2018r broses o gyflwyno buddiannau Cymru a\u2019r Gymraeg dramor.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Gymdeithas yn parhau i gyhoeddi\u2019r Trafodion bob blwyddyn,gan gynnig llwyfan unigryw i erthyglau yn y ddwy iaith ar hanes a llen C ymru a phob math o bynciau llosg. Bu\u2019r Dr Peter Roberts o Brifysgol Caint yn olygydd y Gymdeithas am bymtheng mlynedd, ac yn ystod 2008-09 y mae\u2019r Athro Helen Fulton o Brifysgol Abertawe yn dechrau fel Golygydd.<\/p>\n<p>Bu galw am rai blynyddoedd am fynegai i gyhoeddiadau\u2019r Gymdeithas, ac yna yn 1990 cyhoedodd Gareth Haulfryn Williams ( mab J. Haulfryn Willikams a fu\u2019r ysgrifennyddd y Gymdeithas hyd ei farw yn 1980) fynegai i\u2019r Cymmrodor ac i\u2019r Trafodion o 1878 hyd 1982, cyfrol sydd yn drysor i holl ysgolheigion Cymru. Daeth cyfres Y Cymmrodor i ben yn 1951 gyda chyhoeddi ( yn Saesneg) Hanes y Cymmrodorion gan Helen Ramage a\u2019r Athro R.T. Jenkins, cyhoeddiad a oedd yn rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y Gymdeithas. Ond cyn yr Ail Ryfel Byd yr oedd y Gymdeithas wedi dechrau cynllunio cyhoeddiad arall gwerthfawr sef geiriadur bywgraffyddol y Cymry. Cynigiwyd yr enw Bywgraffiadur gan neb llai na Syr Thomas P{arry-Williams, cadeirydd y Gymdeithas rhwng 1960 a 1969, a hynny ychydig cyn cyhoeddi\u2019r gyfrol yn 1953, dan olygyddiaeth R.T. Jenkins. Cafwyd fersiwn Saesneg, y Dictionary of Welsh Biography yn 1959. Aeth y Bywgraffiadur a hanes y Cymry hyd at y flwyddyn 1940, felly bu\u2019n rhaid cael cyfrolau i gynnwys y Cymry a fu farw hyd at 1970 mewn cyfrolau atodiadol a gyhoeddwyd yn 1990 a 1997. Golygyddion y rhain oedd y Llyfrgellyddion Cenedlaethol, E.D. Jones, a Dr B.F. Roberts, ac y mae Dr B.F. Roberts wedi cynnal y gwaith o gasglu ffeiliau bywgraffyddol y Cymry yn Aberystwyth, ond penderfyniad y Gymdeithas erbyn hyn yw mai\u2019r ffordd fwyaf hwylus o gyhoeddi yw trwy roddi\u2019r manylion ar-lein.<\/p>\n<p>Yn 2001 cyrhaeddodd y Gymdeithjas garreg filltir arbennig yn ei hanes hir, sef ei chwarter-mileniwm, ac uchafbwynt y dathlu oedd derbyniad brenhinol ym Mhalas Sain Siams yn Lundain, a oedd yn gyfle i\u2019r aelodau gyfarfod a\u2019u Noddwr Brenhinol newydd ,sef ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru. Roedd hefyd yn achlysur lle y trosglwyddwyd llywyddiaeth y Gymdeithas oddi wrth yr Athro Emrys Jones i\u2019r hanesydd o Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, Syr Rees Davies. Agwedd bwysig o\u2019r dathlu oedd cyhoeddi cyfrol dan olygyddiaeth Emrys Jones The Welsh in London. Bu\u2019r Gymdeithas yn galaru ar ol marw\u2019r Llywydd Syr Rees Davies yn 2005, ac felly penodwyd Prys Morgan o Abertawe ( a fuasai\u2019n Olygydd y Gymdeithas rhwng 1977 a 1987)yn Llywydd, ac ym mis Mai 2006 fe deledwyd ei ddarlith lywyddol fel rhan o gyfres deledu ar y Cymry yn Llundain,( cyfres a luniwyd i raddau gan Emrys Jones). Y Llywydd presennol sydd wedi cael y dasg o lunio pwt o hanes y Gymdeithas i wefan y Gymdeithas \u2013 cyfrwng wrth gwrs tu hwnt i ddychymyg ein sefydlwyr megis Lewis Morris, a hyd yn oed i swyddogion diweddar megis Syr Vincent Evans a Syr John Cecil-Williams. Ond pe baent wedi dod ar draws y fath gyfrwng cyhoedddusrwydd, gallwn fod yn sicr y byddent wrth eu boddau gydag ef.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/wp-content\/uploads\/2014\/07\/The-Honourable-Society-of-Cymmrodorion-a-concise-history-1751-2001.pdf\">Gallwch gael mynediad yma i gopi o &#8220;The Honourable Society of Cymmrodorion: a concise history 1751 &#8211; 2001&#8221; [testun Saesneg yn unig], gan Yr Athro Emrys Jones a&#8217;i Anrhydedd Dewi Watkin Powell.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hanes Byr y Cymmrodorion\u00a0Gan y Llywydd, Athro Emeritws Prys Morgan Dathlodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei chwarter-mileniwm yn 2001, am ei bod wedi ei sefydlu yn swyddogol yn Llundain yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":232,"parent":90,"menu_order":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-146","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ein Hanes - Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ein Hanes - Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Hanes Byr y Cymmrodorion\u00a0Gan y Llywydd, Athro Emeritws Prys Morgan Dathlodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei chwarter-mileniwm yn 2001, am ei bod wedi ei sefydlu yn swyddogol yn Llundain yn [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2015-07-26T17:29:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/wp-content\/uploads\/2014\/07\/history-of-cymmrodorion.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"750\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"290\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"13 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/\",\"name\":\"Ein Hanes - Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/07\\\/history-of-cymmrodorion.jpg\",\"datePublished\":\"2014-08-11T15:06:03+00:00\",\"dateModified\":\"2015-07-26T17:29:05+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/07\\\/history-of-cymmrodorion.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2014\\\/07\\\/history-of-cymmrodorion.jpg\",\"width\":750,\"height\":290},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/ein-hanes\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Y Gymdeithas\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/cy\\\/y-gymdeithas\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Ein Hanes\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/\",\"name\":\"Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion\",\"description\":\"Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.cymmrodorion.org\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ein Hanes - Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ein Hanes - Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion","og_description":"Hanes Byr y Cymmrodorion\u00a0Gan y Llywydd, Athro Emeritws Prys Morgan Dathlodd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ei chwarter-mileniwm yn 2001, am ei bod wedi ei sefydlu yn swyddogol yn Llundain yn [&hellip;]","og_url":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/","og_site_name":"Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion","article_modified_time":"2015-07-26T17:29:05+00:00","og_image":[{"width":750,"height":290,"url":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/wp-content\/uploads\/2014\/07\/history-of-cymmrodorion.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_misc":{"Est. reading time":"13 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/","url":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/","name":"Ein Hanes - Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/wp-content\/uploads\/2014\/07\/history-of-cymmrodorion.jpg","datePublished":"2014-08-11T15:06:03+00:00","dateModified":"2015-07-26T17:29:05+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/wp-content\/uploads\/2014\/07\/history-of-cymmrodorion.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/wp-content\/uploads\/2014\/07\/history-of-cymmrodorion.jpg","width":750,"height":290},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/ein-hanes\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Y Gymdeithas","item":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/y-gymdeithas\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Ein Hanes"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/#website","url":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/","name":"Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion","description":"Hyrwyddo iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddoniaeth Cymru","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/146","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=146"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/146\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/90"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/232"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.cymmrodorion.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=146"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}