The Honourable Society of Cymmrodorion

Recognising the contribution of Wales in contemporary society

newyddion

cartref > Newyddion > Cinio Gwanwyn Cymru yn Llundain, 26 Mai 2016, gyda’r siaradwr gwadd Dr Norbett Rottgen

Cinio Gwanwyn Cymru yn Llundain, 26 Mai 2016, gyda’r siaradwr gwadd Dr Norbett Rottgen

Dydd Mawrth 17 Mai, 2016

Testun: Beth sy’n nodweddu byd gwleidyddol yr Almaen a beth yw materion allweddol polisi tramor yr Almaen?
Lleoliad : Gwesty St James Court, Buckingham Gate , Llundain , SW1E 6AF
Dyddiad : Dydd Iau 26/05/2016 18:30
Dyddiad Gorffen: Dydd Iau 26/05/2016 22:00
Archebu E-bost: donae.lerwill@oxisenergy.com
Pris: £55 y person (i gynnwys cinio a diodydd)
Iaith : Traddodir y sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg

Cefnogwyd y noson gan Grŵp Airbus.

Mae Dr Rottgen yn aelod o Undeb Cristnogion Democrataidd yr Almaen , Cadeirydd pwyllgor y Bundestag ar faterion tramor a Chyn Weinidog Ffederal yr Amgylchedd, cadwraeth natur a diogelwch niwclear ar gyfer  Llywodraeth yr Almaen.

Darperir diddanwch gan y tenor ifanc, Steffan Hughes o Sir Ddinbych. Yn ogystal â chael cefndir cerddoriaeth werin gyfoethog, mae Steffan hefyd yn ganwr clasurol hyfforddedig. Yn ddiweddar, mae wedi graddio gyda Gradd Baglor mewn Cerddoriaeth (gydag Anrhydedd, gradd dosbarth cyntaf) o Brifysgol Caerdydd, yn astudio gyda’r Soprano enwog, Gail Pearson. Yn ystod ei amser yno, derbyniodd wobr Syr Geraint Evans ddwywaith am berfformiadau lleisiol rhagorol. Y llynedd, yn ogystal, fe ennillodd Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru . Perfformiodd Steffan hefyd yn rownd derfynol y gystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel ym mis Hydref. Ei fwriad  yn y dyfodol agos yw parhau â’i astudiaethau lleisiol drwy wneud cais am le ar gwrs ôl-radd mewn Conservatoire.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, gweler: http://walesinlondon.com/events/555/3/1/4