Y Bywgraffiadur Cymreig

english

Yn ei ragair i’r Bywgraffiadur Cymreig, honna Emrys Jones mai creu’r gyfrol yw rhodd fwyaf Cymdeithas y Cymmrodorion i ysgolheictod Cymru. Mae sail gadarn i’w honiad. Dros rhyw 70 mlynedd, mae’r ugeiniau o ysgolheigion a fu’n rhan o brosiect Bywgraffiadur Cenedlaethol Cymru wedi llunio trysorfa wirioneddol o wybodaeth, drwy ymchwil ofalus iawn a gwybodaeth bersonol mewn rhai achosion, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol yn yr iaith Gymraeg a dwy gyfrol yn y Saesneg gan y Cymmrodorion.

Mae’r cyfrolau yn galeidasgop: ceir awduron, gweinidogion, tirfeddianwyr, diwydianwyr, gwleidyddion, milwyr, penseiri a cherddorion ar eu tudalennau. Mae’n addas bod yn eu plith fywgraffiadau pedwar dyn a fu’n ymwneud yn fawr â phrosiect y bywgraffiadur. Daeth Syr John Cecil-Williams yn ysgrifennydd anrhydeddus y Cymmrodorion ac ef oedd y sbardun i gyhoeddi’r Bywgraffiadur Cymreig. Yr hanesydd Syr John Edward Lloyd, yn ychwanegol at fod yn Gofrestrydd ac Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac awdur gweithiau hanesyddol nodedig, oedd golygydd cyntaf y Bywgraffiadur. Olynwyd Syr John Ballinger i swydd y Llyfrgellydd Cenedlaethol gan Syr William Llewelyn Davies ac ef oedd Golygydd Cysylltiol y Bywgraffiadur. Serch hynny, asgwrn cefn prosiect y Bywgraffiadur Cymreig ar hyd llawer o flynyddoedd oedd R. T. Jenkins, hanesydd, gŵr llengar, Ffrainc-garwr – 'gŵr amlochrog', yn ôl y cofnod.

Yn ogystal â bod yn gyfeirlyfr amhrisiadwy, mae’r Bywgraffiad yn llyfr i bori ynddo ar hap. Ynddo, ochr yn ochr, ceir Llewellyn Jones, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Genhadol y MC a Mai Jones, cyfansoddwraig 'We’ll keep a welcome' a phersonoliaeth radio ysbrydoledig, neu deulu’r Cilie – 'teulu o ofaint, beirdd, cantorion a phregethwyr' – a’r seicdreiddiwr Ernest Jones. Gall y darllenydd fyfyrio dros amrywiaeth y ffynonellau, sy’n amrywio o Annals of the Royal College of Surgeons trwy’r Alpine Journal a’r Radnor Express i’r Bulawayo Chronicle, neu ryfeddu at nifer y cofnodion o dan yr enwau R. T. Jenkins neu E. D. Jones ym mynegai’r cyfranwyr a’u herthyglau.

Golygydd presennol y Bywgraffiadur Cymreig yw Dr Brynley F. Roberts ac o ganlyniad i fenter ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y mae bellach ar gael ar-lein.


Cyfnodolyn Diweddaraf

  • Transactions (Volume 17, 2011)

    Transactions (Volume 17, 2011)

    Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion 2010 New Series, Volume 17 (2011)

    • Price: £15.00 
    • In stock: N/A 
    • Qty: