Huw Wynne-Griffith
Cymro Cymraeg o Ynys Môn yw Huw Wynne-Griffith. Mae ganddo radd BSc mewn Mathemateg Bur a gradd MSc mewn Ystadegaeth o Aberystwyth. Mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Actwari, gan weithredu ym maes rheolaeth ariannol cynlluniau pensiwn ac yn ddiweddarach yn actwari arbenigol ym maes ymgyfreitha. Yn rhinwedd ei waith, bu’n teithio o Rwsia i Seland Newydd, ac o Malaysia yn ôl i orllewin Ewrop yn gyffredinol. Oddi mewn i’r proffesiwn, bu’n gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau ac yn siaradwr ar lywodraethu a phroffesiynoliaeth.
Bu’n gwasanaethu am lawer o flynyddoedd ar y Cyngor yn Aber, a bu’n Is-Lywydd am 10 mlynedd yn ogystal â bod yn aelod o’r pwyllgor buddsoddi a phwyllgorau eraill. Mae bellach yn ymgymryd â swyddogaeth debyg ym Mhrifysgol Cymru. Bu’n aelod o Fwrdd S4C am rai blynyddoedd. Roedd yn drysorydd ac yn ymddiriedolwr y gronfa a gododd y cerflun o David Lloyd-George yn Sgwâr y Senedd, Llundain.
Mae’n weithgar ym mudiad y lifrai yn Ninas Llundain – bu’n Feistr Anrhydeddus Gwmni’r Actiwarïaid, ac mae hefyd yn aelod o Urdd Lifrai Cymru.
Mae Huw yn briod â Helen ac mae ganddynt ddau o blant ac (ar hyn o bryd) tri o wyrion, ac mae’n byw yn Llundain. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau sgïo mor aml ag y gall.



